Dydd Gwener 28ain Chwefror

Jonah 2

1 Dyma Jona yn gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw o fol y pysgodyn.

2 Roeddwn i mewn trafferthion,

a dyma fi’n galw ar yr ARGLWYDD,

a dyma fe’n fy ateb i.

Dyma fi’n gweiddi am dy help di,

o ganol byd y meirw,

a dyma ti’n gwrando arna i!

3 Teflaist fi i’r dyfnder;

i waelod y môr.

Roedd y cerrynt o’m cwmpas,

a’r tonnau mawr yn torri uwch fy mhen.

4 Roeddwn i’n meddwl fy mod i wedi cael

fy ysgubo i ffwrdd gen ti am byth,

ac y byddwn i byth yn cael gweld

dy deml sanctaidd di eto!

5 Roeddwn i bron boddi —

roedd y môr dwfn o’m cwmpas,

a gwymon wedi lapio am fy mhen.

6 Roeddwn i wedi suddo

at waelod isa’r mynyddoedd.

Roedd giatiau byd y meirw

wedi cloi tu ôl i mi am byth.

Ond dyma ti, ARGLWYDD Dduw,

yn fy achub i o’r Pwll dwfn.

7 Pan oedd fy mywyd yn llithro i ffwrdd,

dyma fi’n galw arnat ti, ARGLWYDD;

a dyma ti’n gwrando ar fy ngweddi

o dy deml sanctaidd.

8 Mae’r rhai sy’n addoli eilunod diwerth

yn troi cefn ar dy drugaredd di.

9 Ond dw i’n mynd i offrymu aberth i ti,

a chanu mawl i ti’n gyhoeddus.

Bydda i’n gwneud beth dw i wedi ei addo!

Yr ARGLWYDD ydy’r un sy’n achub!

 

10 Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth y pysgodyn am chwydu Jona ar dir sych.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

 Pam mae Jona’n gweddïo?

Cwestiwn 2

 Beth mae Jona’n ceisio ei wneud yn ei weddi?

Cwestiwn 3

A yw Duw’n ateb ei weddi?

Gweddi:

Diolch i ti, Dad, y gallwn ddod atoch mewn gweddi lle bynnag yr ydym. Diolch dy fod ti ym mhob man!

Want to know more?