
5 Dyma’r neges mae e wedi’i rhoi i ni, a dyma ni nawr yn ei rhannu gyda chi: Golau ydy Duw; does dim tywyllwch o gwbl ynddo. 6 Felly, os ydyn ni’n honni fod gynnon ni berthynas gyda Duw ac eto’n dal i fyw fel petaen ni yn y tywyllwch, mae’n amlwg ein bod ni’n dweud celwydd. Dŷn ni ddim yn byw yn ffyddlon i’r gwir. 7 Ond os ydyn ni’n byw yn y golau, fel mae Duw yn y golau, dŷn ni’n perthyn i’n gilydd, ac mae gwaed Iesu ei Fab yn ein glanhau ni o bob pechod.
8 Os ydyn ni’n honni ein bod ni heb bechod, dŷn ni’n twyllo’n hunain a dydy’r gwir ddim ynon ni. 9 Ond os gwnawn ni gyffesu ein pechodau, bydd e’n maddau i ni am ein pechodau ac yn ein glanhau ni oddi wrth bopeth drwg, am ei fod e’n cadw ei air ac yn gwneud beth sy’n iawn. 10 Os ydyn ni’n honni ein bod ni erioed wedi pechu, dŷn ni’n gwneud Duw yn gelwyddog, ac mae’n amlwg bod ei neges e’n cael dim lle yn ein bywydau ni.
Cwestiwn 1
Mae rhai pobl yn meddwl eu bod yn gallu twyllo pobl eraill a hyd yn oed Duw – dweud eu bod yn well nag ydyn nhw. Beth wyt ti’n meddwl byddai Ioan yn ei ddweud wrthyn nhw?
Cwestiwn 2
Yng Nghymru heddiw mae pobl yn meddwl fod Cristnogion yn hypocrites. Beth ddylai fod yn nodweddu Cristion go iawn?
Cwestiwn 3
Pam nad oes angen i ni guddio pwy ydym ni na’r adegau pan rydym yn methu oddi wrth eraill a Duw? Sut mae hyn yn rhoi cysur wrth i ti feddwl am y pethau anghywir yr wyt ti wedi eu gwneud? Sut mae hyn yn rhoi hyder wrth i ti feddwl am y flwyddyn sydd o’th flaen?
Mae bod yn Gristion yn golygu ein bod yn rhydd. Rydym yn rhydd o farn Duw, rydym yn rhydd i fwynhau Duw, ond rydym hefyd yn rhydd o geisio cuddio ein methiant. Dwi ddim yn meddwl fod llawer o bobl yn bod yn onest yn ein cymdeithas ni heddiw – mae gymaint yn cuddio y tu ôl i fasg. Diolch fod Iesu yn ein rhyddhau i fod yn onest – mae angen i ni ddangos hyn i’n ffrindiau.
Gweddi:
Diolch Dad mod i’n rhydd! Dwi mor sori am y drwg sydd yn fy mywyd, mae gyda fi gywilydd a dwi ddim eisiau i neb wybod am y pethau yma, ond diolch nad ydy’r pethau yma yn fy niffinio fi.
Diolch mod i wedi derbyn maddeuant a bod Iesu wedi cymryd y gosb dwi’n ei haeddu a diodde’r cyfan ar y groes. Helpa fi i ddangos i eraill gymaint dwi’n caru Iesu am beth mae wedi ei wneud drosof.