Dydd Gwener 7fed Chwefror

Salm 13

I’r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1 Am faint mwy, ARGLWYDD?

Wyt ti’n mynd i’m diystyru i am byth?

Am faint mwy rwyt ti’n mynd i droi cefn arna i?

2 Am faint mwy mae’n rhaid i mi boeni f’enaid,

a dal i ddioddef fel yma bob dydd?

Am faint mwy mae’r gelyn i gael y llaw uchaf?

 

3 Edrych arna i!

Ateb fi, O ARGLWYDD, fy Nuw!

Adfywia fi,

rhag i mi suddo i gwsg marwolaeth;

4 rhag i’r gelyn ddweud, “Dw i wedi ennill!”

ac i’r rhai sy’n fy nghasáu ddathlu wrth i mi syrthio.

 

5 Ond na, dw i’n trystio dy fod ti’n ffyddlon!

Bydda i’n gorfoleddu am dy fod wedi f’achub i.

Bydda i’n canu mawl i ti, ARGLWYDD,

am achub fy ngham.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Wyt ti’n synnu ar agwedd Dafydd yn adnodau 1 a 2?

Cwestiwn 2

Beth yw agwedd Dafydd erbyn diwedd y Salm?

Cwestiwn 3

A yw’r Salm hon yn dy annog i weddïo ac ymddiried yn Nuw hyd yn oed pan nad wyt yn teimlo fod Duw yn gwrando arnat?

Beth am ddefnyddio’r Salm yma fel patrwm i weddïo ar yr adegau yna?

Gweddi:

Diolch i ti, Dad, y gallaf fod yn onest â chi am fy nheimladau. Diolch dy fod ti’n gwrando ar fy ngweddïau.

Want to know more?