
18 Dyma ddigwyddodd pan gafodd Iesu y Meseia ei eni: Roedd ei fam, Mair, wedi cael ei haddo i fod yn wraig i Joseff. Ond cyn iddyn nhw briodi a chael rhyw, dyma nhw’n darganfod fod yr Ysbryd Glân wedi’i gwneud hi’n feichiog. 19 Roedd Joseff, oedd yn mynd i’w phriodi, yn ddyn da a charedig. Doedd e ddim eisiau gwneud esiampl ohoni a’i chyhuddo hi’n gyhoeddus, felly roedd yn ystyried yn dawel fach i ganslo’r briodas.
20 Roedd wedi bod yn meddwl am hyn pan gafodd freuddwyd: gwelodd angel Duw yn dod ato a dweud wrtho, “Joseff fab Dafydd, paid petruso mynd â Mair adre i fod yn wraig i ti, am mai’r Ysbryd Glân sydd wedi gwneud iddi feichiogi. 21 Bachgen fydd hi’n ei gael. Rwyt i roi’r enw Iesu iddo, am mai fe fydd yn achub ei bobl o’u pechodau.”
22 Digwyddodd hyn er mwyn i beth ddwedodd Duw drwy ei broffwyd ddod yn wir: 23 “Edrychwch! Bydd merch ifanc sy’n wyryf yn feichiog ac yn cael mab. Bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel” (Ystyr Emaniwel ydy “Mae Duw gyda ni.”)
24 Pan ddeffrodd Joseff, gwnaeth beth roedd angel Duw wedi’i ddweud wrtho. Priododd Mair, 25 ond chafodd e ddim rhyw hefo hi nes i’w mab gael ei eni. A rhoddodd yr enw Iesu iddo.
Mae Mathew hefyd yn adrodd hanes geni Iesu. Mae Mathew yn canolbwyntio ar hanes yr angel yn ymddangos i Joseff cyn genedigaeth Iesu. Mae’r angel yn egluro mai Iesu yw’r un sydd wedi dod i ‘waredu’ (achub) pobl o’u pechodau!
Cwestiwn 1
Ystyr yr enw Hebraeg ‘Iesu’ (Yeshua) yw ‘i achub’ neu ‘i waredu’. Sut mae Iesu’n mynd i ‘waredu’ ei bobl o’u pechodau? Pam ein bod ni angen cael ein hachub o’n pechodau?
Cwestiwn 2
Pam fod Mathew yn dyfynnu Eseia 7:14 (darlleniad Rhagfyr 1af) yn adnod 23? Beth mae hyn yn ei ddweud am enedigaeth Iesu?
Gweddïo: Diolch, Arglwydd, am anfon Iesu i’r byd i’n gwaredu o’n pechod trwy farw ar y groes yn ein lle.
Diolch fod maddeuant pechodau ar gael i bawb sy’n credu yn Iesu! Helpa ni i gredu mai Iesu yw’r Gwaredwr heddiw.