
1 Dyma bawb yn torri allan i grio’n uchel. Roedden nhw’n crio drwy’r nos. 2 Dyma bobl Israel yn dechrau cwyno a throi yn erbyn Moses ac Aaron. “Byddai’n well petaen ni wedi marw yn yr Aifft, neu hyd yn oed yn yr anialwch yma!” medden nhw. 3 “Pam mae’r ARGLWYDD wedi dod â ni i’r wlad yma i gael ein lladd yn y frwydr? Bydd ein gwragedd a’n plant yn cael eu cymryd yn gaethion! Fyddai ddim yn well i ni fynd yn ôl i’r Aifft?” 4 A dyma nhw’n dweud wrth ei gilydd, “Gadewch i ni ddewis rhywun i’n harwain ni, a mynd yn ôl i’r Aifft.”
5 Dyma Moses ac Aaron yn plygu gyda’u hwynebau ar lawr. Gwnaethon nhw hyn o flaen pobl Israel i gyd, oedd wedi dod at ei gilydd. 6 Yna dyma ddau o’r arweinwyr oedd wedi bod yn archwilio’r wlad – sef Josua fab Nwn a Caleb fab Jeffwnne – yn rhwygo’u dillad. 7 A dyma nhw’n dweud wrth bobl Israel, “Mae’r wlad buon ni’n edrych arni yn wlad fendigedig! 8 Os ydy’r ARGLWYDD yn hapus gyda ni, bydd yn mynd â ni yno ac yn rhoi’r wlad i ni. Mae’n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. 9 Felly, peidiwch gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD! A pheidiwch bod ag ofn y bobl sy’n byw yn y wlad. Ni fydd yn eu bwyta nhw! Does ganddyn nhw ddim gobaith! Mae’r ARGLWYDD gyda ni! Felly peidiwch bod â’u hofn nhw.” 10 Erbyn hyn, roedd y bobl yn bygwth lladd Josua a Caleb drwy daflu cerrig atyn nhw. Ond yna dyma ysblander yr ARGLWYDD yn dod i’r golwg uwchben pabell presenoldeb Duw. (Gwelodd pobl Israel i gyd hyn.) 11 A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Am faint mae’r bobl yma’n mynd i’m dirmygu i? Ydyn nhw byth yn mynd i gredu yno i, ar ôl yr holl arwyddion gwyrthiol maen nhw wedi’u gweld? 12 Dw i wedi cael digon! Dw i’n mynd i anfon haint i’w dinistrio nhw! A bydda i’n gwneud dy ddisgynyddion di yn bobl fwy a chryfach na fuon nhw erioed.”
13 A dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Ond wedyn bydd pobl yr Aifft yn clywed am y peth! Ti ddefnyddiodd dy nerth i ddod â’r bobl allan oddi wrthyn nhw. 14 Byddan nhw’n dweud am y peth wrth bobl y wlad dŷn ni’n mynd iddi. ARGLWYDD, maen nhw wedi clywed dy fod ti gyda’r bobl yma. Maen nhw’n gwybod fod y bobl yma wedi dy weld di gyda’u llygaid eu hunain, bod dy gwmwl di yn hofran uwch eu pennau, a dy fod ti’n eu harwain nhw mewn colofn o niwl yn y dydd a cholofn o dân yn y nos. 15 Os gwnei di ladd y bobl yma i gyd gyda’i gilydd, bydd y gwledydd sydd wedi clywed amdanat ti’n dweud, 16 ‘Doedd yr ARGLWYDD ddim yn gallu arwain y bobl i’r wlad roedd e wedi’i haddo iddyn nhw, felly dyma fe’n eu lladd nhw yn yr anialwch!’ 17 Felly, fy Meistr, dangos mor gryf wyt ti. Rwyt ti wedi dweud, 18 ‘Mae’r ARGLWYDD mor amyneddgar ac mae ei haelioni yn anhygoel. Mae’n maddau beiau a gwrthryfel. Ond dydy e ddim yn gadael i’r euog fynd heb ei gosbi. Mae pechodau pobl yn gadael eu hôl ar y plant am dair neu bedair cenhedlaeth.’ 19 Plîs wnei di faddau drygioni’r bobl yma? Mae dy gariad ffyddlon mor fawr, ac rwyt ti wedi bod yn maddau iddyn nhw ers iddyn nhw ddod o’r Aifft.”
Roedd yr Israeliaid wedi gwrthod y Duw oedd wedi’u hachub o’r Aifft. Roedd yn well ganddynt fynd yn ôl i’r Aifft i fod yn gaethweision. Er hyn, tosturiodd Moses wrth y bobl gan weddïo ac eiriol trostynt.
Cwestiwn 1
Pa hyder sydd gan Moses y bydd Duw yn gwrando ar ei weddi dros y bobl (ad. 18-19)?
Cwestiwn 2
Wyt ti’n cael trafferth i weddïo dros rhai pobl? Meddwl am rai pobl nad wyt yn credu ddaw yn Gristnogion ac ymro i weddïo drostynt.
Cwestiwn 3
Oeddet ti’n gwybod fod Iesu yn gweddïo drosom ni yn y nefoedd? Darllena Rhufeiniaid 8:34. Sut mae hyn yn ein hannog i ddal ati?
Gweddi:
Gweddïa am help i weddïo! Gweddïa am bobl ti’n ffeindio yn anodd. Diolch am Iesu Grist, yr un sy’n eiriol drosom.