11 Yn fuan wedyn, dyma Iesu’n mynd i dref o’r enw Nain. Roedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr o bobl gydag e. 12 Pan oedd ar fin cyrraedd giât y dref roedd pobl mewn angladd ar y ffordd allan. Bachgen ifanc oedd wedi marw – unig fab rhyw wraig weddw. Roedd tyrfa fawr o bobl y dre yn yr angladd. 13 Pan welodd Iesu’r wraig weddw roedd yn teimlo drosti, ac meddai wrthi, “Paid crio.”
14 Yna gwnaeth rywbeth cwbl annisgwyl – cyffwrdd yr arch! Dyma’r rhai oedd yn ei chario yn sefyll yn stond. “Fachgen ifanc,” meddai Iesu, “dw i’n dweud wrthot ti am godi!” 15 A dyma’r bachgen oedd wedi marw yn codi ar ei eistedd a dechrau siarad. A dyma Iesu’n ei roi yn ôl i’w fam.
16 Roedd pawb wedi’u syfrdanu’n llwyr, a dyma nhw’n dechrau moli Duw. “Mae proffwyd mawr wedi codi yn ein plith ni!” medden nhw. “Mae Duw wedi dod aton ni i helpu ei bobl.” 17 Aeth yr hanes yma am Iesu ar led fel tân gwyllt, drwy Jwdea gyfan ac ymhellach na hynny.
Wyt ti’n meddwl mai cyd-ddigwyddiad yw hi bod Iesu yn cyrraedd y dref wrth i’r cynebrwng ddod allan?
Cwestiwn 2
Pam fod Iesu’n dweud wrthi am beidio wylo?
Cwestiwn 3
Pam fod sefyllfa y wraig mor druenus ac anobeithiol?
Cwestiwn 4
Pwy fysai yn gallu gwneud yr hyn mae Iesu yn ei wneud?
Gweddi:
Arglwydd, diolch fod gen ti awdurdod dros fywyd a marwolaeth a dy fod ti hyd yn oed yn gallu atgyfodi’r meirw. Diolch fod Iesu wedi marw er mwyn i ni gael bywyd tragwyddol.