Dydd Llun 17 Mawrth

Josua 14:6-15

6 Pan oedden nhw yn Gilgal, dyma ddynion o lwyth Jwda yn mynd i weld Josua. Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad oedd yn siarad ar eu rhan, ac meddai, “Ti’n cofio beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, dyn Duw, amdanon ni’n dau, yn Cadesh-barnea? 7 Pedwar deg oed oeddwn i pan anfonodd Moses fi o Cadesh-barnea i ysbïo ar y wlad. A dyma fi’n rhoi adroddiad cwbl onest iddo pan ddes i yn ôl.Croes 8 Roedd y dynion eraill aeth gyda ni wedi dychryn y bobl a gwneud iddyn nhw ddigalonni. Ond roeddwn i wedi aros yn ffyddlon i’r ARGLWYDD fy Nuw. 9 A’r diwrnod hwnnw dyma Moses yn addo ar lw: ‘Bydd y tir lle buoch chi’n cerdded yn cael ei roi i ti a dy deulu am byth, am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon i’r ARGLWYDD dy Dduw.’Croes 10 Ac mae’r ARGLWYDD wedi cadw ei addewid. Dyma fi, yn dal yn fyw, bedwar deg pum mlynedd yn ddiweddarach. Dyna faint o amser sydd wedi mynd heibio ers i’r ARGLWYDD siarad â Moses pan oedd pobl Israel yn crwydro yn yr anialwch. Dw i’n wyth deg pum mlwydd oed bellach, 11 ac yn dal mor gryf ag oeddwn i pan anfonodd Moses fi allan! Dw i’n dal i allu ymladd a gwneud popeth roeddwn i’n ei wneud bryd hynny. 12 Felly rho i mi’r bryniau wnaeth yr ARGLWYDD eu haddo i mi. Mae’n siŵr y byddi’n cofio fod disgynyddion Anac yn byw yno, mewn trefi caerog mawr. Ond gyda help yr ARGLWYDD, bydda i’n cael gwared â nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo.”

 

13 Felly dyma Josua yn bendithio Caleb fab Jeffwnne, a rhoi tref Hebron iddo. 14 Mae disgynyddion Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad yn dal i fyw yn Hebron hyd heddiw, am ei fod wedi bod yn ffyddlon i’r ARGLWYDD, Duw Israel. 15 Yr hen enw ar Hebron oedd Ciriath-arba, wedi’i enwi ar ôl Arba, oedd yn un o arwyr yr Anaciaid.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Wyt ti erioed wedi gorfod aros amser maith am rywbeth? Er bod Caleb wedi gorfod aros am 45 blynedd, roedd yn dal yn hollol hyderus yn Nuw. Beth wyt ti’n ei feddwl oedd yn cadw Caleb dros yr holl amser?

Cwestiwn 2

Mae’n ddiddorol fod Caleb eisiau’r tir gorau – hyd yn oed y darn oedd wedi ei
amddiffyn gan gewri. Beth mae hyn yn ei ddysgu am Caleb?

Cwestiwn 3

Wyt ti’n ‘breuddwydio’ y bydd Dduw yn gwneud pethau mawr? Os na, dechreua feddwl am bethau i ‘freuddwydio’ ac i weddïo amdanynt – rydym yn blant i’r Duw sy’n gallu gwneud yr amhosibl!

Gweddi:

Gweddïa y byddi di, fel Caleb yn aros yn ffyddlon i Dduw drwy dy holl fywyd. Diolcha fod Duw yn ffyddlon.

Want to know more?