Dydd Iau 19 Rhagfyr

Ioan 10:10

10 Mae’r lleidr yn dod gyda’r bwriad o ddwyn a lladd a dinistrio. Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnw’n fywyd ar ei orau.

Cwestiynau

Mae Ioan yn esbonio fod Iesu Grist wedi dod i roi bywyd i ni. Daeth Iesu i’r byd i farw yn ein lle er mwyn i ni gael bywyd.

Cwestiwn 1

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng yr hyn mae Iesu yn ei gynnig a’r hyn mae’r lleidr yn ei gynnig?

Cwestiwn 2

Ym mha ffordd yr ydym angen ‘bywyd’?

Cwestiwn 3

Darllena bennod 10 i gyd. Sut mae Iesu yn disgrifio ei hun? Sut mae’r disgrifiad hwn yn rhoi cysur i ti heddiw?

Gweddïo: Diolch, Arglwydd, fod Iesu wedi dod i roi bywyd i bobl—a bywyd yn ei holl gyflawnder! Diolch mai Iesu yw’r Bugail Da sydd wedi dod i aberthu ei fywyd dros ei ddefaid. Helpa ni i gredu yn Iesu heddiw. 

Want to know more?