Dydd Iau 20fed Chwefror

Iago 1:2-8

2 Frodyr a chwiorydd, pan fyddwch chi’n wynebu pob math o dreialon, ystyriwch hynny’n rheswm i fod yn llawen. 3 Achos pan mae’ch ffydd chi’n cael ei brofi mae hynny’n meithrin y gallu i ddal ati a pheidio rhoi’r gorau iddi. 4 Ac mae dal ati drwy’r cwbl yn eich gwneud chi’n gryf ac aeddfed – yn barod ar gyfer unrhyw beth! 5 Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw. Mae Duw yn rhoi yn hael i bawb sy’n gofyn, ac yn gwneud hynny heb oedi na phwyntio bys at eu beiau nhw. 6 Ond rhaid gofyn gan gredu y bydd Duw yn ateb – peidio amau, am fod y rhai sy’n amau yn debyg i donnau’r môr yn cael eu taflu a’u chwipio i bobman gan y gwynt. 7 Ddylai pobl felly ddim disgwyl cael unrhyw beth gan yr Arglwydd! 8 Dŷn nhw ddim yn gwybod beth sydd arnyn nhw eisiau. Maen nhw’n byw mewn ansicrwydd.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Beth sydd ei angen arnom fel Cristnogion?

Cwestiwn 2

Oes adeg yn dy fywyd lle’r wyt ti wedi amau Duw?

Cwestiwn 3

Meddwl am ffyrdd y medri drystio Duw mwy, a gweddïa am gymorth i wneud hyn.

Gweddi:

Dad nefol, helpa fi i ddyfalbarhau yn fy ffydd.

Want to know more?