Dydd Iau 23ain Ionawr

Luc 19:1-10

1 Aeth Iesu yn ei flaen i mewn i Jericho, ac roedd yn mynd drwy’r dref. 2 Roedd dyn o’r enw Sacheus yn byw yno – Iddew oedd yn arolygwr yn adran casglu trethi Rhufain. Roedd yn ddyn hynod o gyfoethog. 3 Roedd arno eisiau gweld Iesu, ond roedd yn ddyn byr ac yn methu ei weld am fod gormod o dyrfa o’i gwmpas. 4 Rhedodd ymlaen a dringo coeden sycamorwydden oedd i lawr y ffordd lle roedd Iesu’n mynd, er mwyn gallu gweld.

 

5 Pan ddaeth Iesu at y goeden, edrychodd i fyny a dweud wrtho, “Sacheus, tyrd i lawr. Mae’n rhaid i mi ddod i dy dŷ di heddiw.” 6 Dringodd Sacheus i lawr ar unwaith a rhoi croeso brwd i Iesu i’w dŷ.

 

7 Doedd y bobl welodd hyn ddim yn hapus o gwbl! Roedden nhw’n cwyno a mwmblan, “Mae wedi mynd i aros i dŷ ‛pechadur‛ – dyn ofnadwy!”

 

8 Ond dyma Sacheus yn dweud wrth Iesu, “Arglwydd, dw i’n mynd i roi hanner popeth sydd gen i i’r rhai sy’n dlawd. Ac os ydw i wedi twyllo pobl a chymryd mwy o drethi nag y dylwn i, tala i bedair gwaith cymaint yn ôl iddyn nhw.” Ref

 

9 Meddai Iesu, “Mae’r bobl sy’n byw yma wedi gweld beth ydy achubiaeth heddiw. Mae’r dyn yma wedi dangos ei fod yn fab i Abraham. 10 Dw i, Mab y Dyn, wedi dod i chwilio am y rhai sydd ar goll, i’w hachub nhw.”

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Pam wyt ti’n meddwl fod Sacheus mor awyddus i weld Iesu?

Cwestiwn 2

Beth ydyn ni’n dysgu am Iesu yn adnod 5?

Cwestiwn 3

Pa wahaniaeth roedd cwrdd a Iesu wedi gwneud i’w fywyd?

Gweddi:

Dad, diolch am dy dosturi di i ni. Helpa ni ryfeddu ar dy gariad a newid ni i fod yn debycach i Iesu Grist.
Amen.

Want to know more?