Dydd Iau 27 Mawrth

2 Corinthiaid 5:12-6:3

12 Dim ceisio canmol ein hunain ydyn ni eto. Na, dim ond eisiau i chi fod yn falch ohonon ni. Dyn ni eisiau i chi allu ateb y rhai sydd ddim ond yn ymfalchïo yn yr allanolion a ddim yn beth sydd yn y galon. 13 Os dyn ni’n ymddangos fel ffanatics, mae hynny am ein bod ar dân dros Dduw. Os dyn ni’n siarad yn gall, mae hynny er eich lles chi. 14 Cariad y Meseia sy’n ein gyrru ni’n ein blaenau. A dyma’n argyhoeddiad ni: mae un dyn wedi marw dros bawb, ac felly mae pawb wedi marw. 15 Mae e wedi marw dros bawb er mwyn i’r rhai sy’n cael bywyd tragwyddol beidio byw i blesio nhw eu hunain o hyn allan. Maen nhw i fyw i blesio’r un fuodd farw drostyn nhw a chael ei godi yn ôl yn fyw eto. 16 Bellach dyn ni wedi stopio edrych ar bobl fel mae’r byd yn gwneud. Er ein bod ni ar un adeg wedi edrych ar y Meseia ei hun felly, dyn ni ddim yn gwneud hynny mwyach. 17 Pan mae rhywun yn dod yn Gristion mae wedi ei greu yn berson newydd: mae’r hen drefn wedi mynd! Edrychwch, mae bywyd newydd wedi cymryd ei le! 18 A Duw sy’n gwneud y cwbl — mae wedi gwneud heddwch rhyngon ni ag e’i hun drwy beth wnaeth y Meseia. Ac mae wedi rhoi’r gwaith i ni o rannu’r neges gyda phobl eraill. 19 Ydy, mae Duw wedi sicrhau heddwch rhyngddo fe’i hun â’r byd drwy beth wnaeth y Meseia. Dydy e ddim yn dal methiant pobl yn eu herbyn nhw! Ac mae wedi rhoi i ni y gwaith o ddweud am hyn wrth bobl. 20 Dyn ni’n llysgenhadon yn cynrychioli’r Meseia, ac mae Duw yn anfon ei apêl allan trwon ni. Ar ran y Meseia, dyn ni’n crefu arnoch chi: Dewch i berthynas newydd gyda Duw! 21 Wnaeth Iesu ddim pechu, ond dyma Duw yn ei wneud e’n offrwm dros bechod ar ein rhan ni. Dyn ni’n gallu byw mewn perthynas iawn gyda Duw drwy ein perthynas gydag e.

1 Dŷn ni’n cydweithio gyda Duw ac yn apelio atoch chi i beidio ymateb yn arwynebol i’w haelioni e. 2 Mae Duw’n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd,

“Bydda i’n gwrando arnat ti pan fydd yr amser yn iawn,

Ac yn dy helpu di pan ddaw’r dydd i mi achub.”Croes

Edrychwch! Mae’r amser iawn wedi dod! Mae’r dydd i Dduw achub yma!

3 Dŷn ni ddim eisiau gwneud unrhyw beth fydd yn rhwystro pobl rhag dod i gredu, fel bod dim modd beio ein gwaith ni.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Mae Paul yn sôn am ofn Duw a chariad Crist sydd, er gwaethaf yr hyn mae pobl eraill yn ei ddweud amdano, yn ei gymell i’w perswadio am yr efengyl (ad. 11-15). Wyt ti’n rhannu’r un baich am rannu’r neges yma gydag eraill? Ydan ni’n poeni fwy am be mae pobl yn ei feddwl nac am eu heneidiau?

Cwestiwn 2

Sut mae Paul yn crynhoi’r efengyl yn ad. 16-21?

Cwestiwn 3

Yn ad. 20 mae Paul yn ein disgrifio fel cenhadon Crist ac yna yn 6:1-3 mae’n ein hannog i wneud yn siŵr fod gras Duw ar waith yn ein bywyd. Pa effaith ddylai hyn ei gael ar sut ydyn ni’n byw ein bywyd?

Gweddi:

Gweddïa am gyfle i rannu’r newyddion da am Iesu Grist gyda rhywun heddiw. Diolch Iddo am yr efengyl.

Want to know more?