
27 Tro dy gefn ar ddrwg a gwna beth sy’n dda,
a byddi’n saff am byth.
28 Mae’r ARGLWYDD yn caru beth sy’n gyfiawn,
a dydy e byth yn siomi’r rhai sy’n ffyddlon iddo.
Maen nhw’n saff bob amser!
Ond bydd plant y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd.
29 Bydd y rhai sy’n byw yn iawn yn meddiannu’r tir,
ac yn aros yno am byth.
4 Ond mae Duw mor anhygoel o drugarog! Mae wedi’n caru ni gymaint! 5 Mae wedi rhoi bywyd i ni gyda’r Meseia – ie, ni oedd yn farw’n ysbrydol am ein bod wedi gwrthryfela yn ei erbyn. Y ffaith fod Duw mor hael ydy’r unig reswm pam dŷn ni wedi’n hachub! 6 Cododd Duw ni yn ôl yn fyw gyda’r Meseia Iesu a’n gosod i deyrnasu gydag e yn y byd nefol – dŷn ni wedi’n huno gydag e! 7 Felly bydd haelioni Duw i’w weld yn glir yn y byd sydd i ddod. Does dim byd tebyg yn unman i’r caredigrwydd ddangosodd aton ni drwy beth wnaeth y Meseia Iesu. 8 Haelioni Duw ydy’r unig beth sy’n eich achub chi wrth i chi gredu. Dych chi wedi gwneud dim i haeddu’r peth. Anrheg Duw ydy e! 9 Dych chi’n gallu gwneud dim i’w ennill, felly does dim lle i unrhyw un frolio. 10 Duw sydd wedi’n gwneud ni beth ydyn ni. Mae wedi’n creu mewn perthynas â’r Meseia Iesu, i ni wneud yr holl bethau da mae e wedi’u trefnu ymlaen llaw i ni eu gwneud.
Cwestiwn 1
Mae’r Salmydd yn ein hannog i droi oddi wrth ddrygioni ac i wneud daioni. Beth yw’r addewid sy’n dilyn?
Cwestiwn 2
Sut mae Duw wedi dangos trugaredd i ni? Darllena Effesiaid 2:4-10.
Cwestiwn 3
Mae Effesiaid 2:10 yn dweud, trwy Grist rydym wedi cael ein creu i fywyd o weithredoedd da. Ydym ni yn dweud wrth eraill am drugaredd Duw? Sut allet ti wneud hynny heddiw?
Gweddi:
Gweddïa y byddi’n byw bywyd o weithredoedd da yn sgil trugaredd Duw tuag atat, diolch Iddo am ei drugaredd cyfoethog a’i gariad mawr.