30 Mae pobl dduwiol yn dweud beth sy’n ddoeth,
ac yn hybu cyfiawnder.
31 Cyfraith Duw sy’n rheoli eu ffordd o feddwl,
a dŷn nhw byth yn llithro.
32 Mae’r rhai drwg yn disgwyl am gyfle
i ymosod ar y sawl sy’n byw’n iawn,
yn y gobaith o’i ladd;
33 ond fydd yr ARGLWYDD ddim gadael iddo syrthio i’w dwylo;
fydd e ddim yn cael ei gondemnio yn y llys.
Cwestiwn 1
Pa fath o eiriau sydd ar dy wefusau di yn aml? Sut allwn ni sicrhau fod Gair Du war ein calon?
Cwestiwn 2
Ydyn ni’n cymryd Gair Duw o ddifri neu oes gennym gywilydd or Beibl?
Cwestiwn 3
Sut mae gwybod bod Yr Arglwydd o’n plaid ni (ad. 33) yn gymorth i ddal ati?
Gweddi:
Gweddïa y byddi’n trysori Gair Duw, y Beibl. Diolch i Dduw am ddatguddio ei Hun i ni drwy’r Beibl.
This devotion looks at a passage from Psalms
Mae’r defosiynol hwn yn edrych ar Salm