
1 Oes! Mae tyrfa enfawr o’n cwmpas ni yn dweud mai trystio Duw ydy’r ffordd orau i fyw. Felly gadewch i ni gael gwared â phopeth sy’n ein dal ni’n ôl, yn arbennig y pechod sy’n denu’n sylw ni mor hawdd. Gadewch i ni fod yn benderfynol o ddal ati, a rhedeg y ras sydd o’n blaenau i’w diwedd. 2 Rhaid i ni hoelio’n sylw ar Iesu – fe ydy’r pencampwr a’r hyfforddwr sy’n perffeithio ein ffydd ni. Er mwyn profi’r llawenydd oedd o’i flaen, dyma fe’n dal ei dir ar y groes gan wrthod ystyried y cywilydd o wneud hynny, a bellach mae’n eistedd yn y sedd anrhydedd ar yr ochr dde i orsedd Duw yn y nefoedd!
Mae rhedeg 5k, 10k neu hyd yn oed marathon yn boblogaidd y dyddiau hyn, ond mae’n waith caled – rhaid dyfalbarhau wrth hyfforddi ac yn ystod y ras ei hun. Nid yw bywyd y Cristion yn wahanol – dyna pam mae Paul yn ei ddisgrifio fel ras yn 1 Corinthiaid 9 ac mae angen cymorth arnom i ddyfalbarhau a dal ati. Dyma thema darlleniadau’r mis yma. Mae Duw yn ei Air a thrwy ei Ysbryd yn ein hannog a’n nerthu i ddal ati drwy gadw ein golwg ar Iesu. Mae Duw yn siarad gyda ni drwy’r Beibl, felly mae’n bwysig iawn ein bod ni yn ei ddarllen ac yn meddwl yn ofalus beth mae Duw yn ei ddweud wrthym ni drwyddo fo. Efallai y bydd yn help i ti gael papur a beiro wrth law i gymryd nodiadau. Cyn darllen, gweddïa y bydd Duw’n siarad â thi ac yn dy helpu i ddeall ei Air, ac y bydd Ef yn defnyddio’r Beibl i newid dy fywyd. Ar ddiwedd pob astudiaeth mae’n bwysig iawn dy fod yn gweddïo ac yn siarad gyda Duw am beth rwyt ti wedi ei ddysgu a’r pethau rwyt ti eisiau eu newid yn dy fywyd di.
1 Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2 “Anfon ddynion i archwilio gwlad Canaan, sef y tir dw i’n ei roi i bobl Israel. Anfon un arweinydd o bob llwyth.”
3 Felly dyma Moses yn eu hanfon nhw o anialwch Paran, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Roedden nhw i gyd yn arweinwyr pobl Israel. 4-15 Dyma’u henwau nhw:
Enw | Llwyth |
---|---|
Shammwa fab Saccwr | Reuben |
Shaffat fab Chori | Simeon |
Caleb fab Jeffwnne | Jwda |
Igal fab Joseff | Issachar |
Hoshea fab Nwn | Effraim |
Palti fab Raffw | Benjamin |
Gadiel fab Sodi | Sabulon |
Gadi fab Swsi | Joseff (sef Manasse) |
Ammiel fab Gemali | Dan |
Sethwr fab Michael | Asher |
Nachbi fab Foffsi | Nafftali |
Gewel fab Machi | Gad |
16 Dyna enwau’r dynion anfonodd Moses i ysbïo’r wlad. Ac roedd Moses yn galw Hoshea fab Nwn yn Josua.
17 Pan anfonodd Moses nhw i archwilio gwlad Canaan, dwedodd fel hyn: “Ewch i fyny drwy’r Negef, ac ymlaen i’r bryniau. 18 Edrychwch i weld sut wlad ydy hi. Ydy’r bobl yn gryf neu’n wan? Oes yna lawer ohonyn nhw, neu ddim ond ychydig? 19 Sut dir ydy e? Da neu ddrwg? Oes gan y trefi waliau i’w hamddiffyn, neu ydyn nhw’n agored? 20 Beth am y pridd? Ydy e’n ffrwythlon neu’n wael? Oes yna fforestydd yno? Byddwch yn ddewr! Ewch yno, a dewch â pheth o gynnyrch y tir yn ôl gyda chi.” (Roedd hi’r adeg o’r flwyddyn pan oedd y grawnwin aeddfed cyntaf yn cael eu casglu.)
21 Felly i ffwrdd â nhw. A dyma nhw’n archwilio’r wlad, yr holl ffordd o anialwch Sin yn y de i Rechob, wrth Fwlch Chamath, yn y gogledd.
22 Wrth fynd drwy’r Negef, dyma nhw’n cyrraedd Hebron. Roedd yr Achiman, y Sheshai a’r Talmai yn byw yno, sef disgynyddion Anac. (Roedd tref Hebron wedi’i hadeiladu saith mlynedd cyn Soan yn yr Aifft.) 23 Pan gyrhaeddon nhw ddyffryn Eshcol, dyma nhw’n torri cangen oddi ar winwydden gydag un swp o rawnwin arni. Roedd rhaid cael dau ddyn i’w chario ar bolyn rhyngddyn nhw. A dyma nhw’n casglu pomgranadau a ffigys hefyd. 24 Roedd y lle’n cael ei alw yn ddyffryn Eshcol (sef ‛swp o rawnwin‛) o achos y swp o rawnwin roedden nhw wedi’i gymryd oddi yno.
Cwestiwn 1
Beth oedd addewid Duw i’w bobl yn ad. 1-2?
Cwestiwn 2
Beth yw’r prawf i’r ysbiwyr bod y wlad yma yn un da a ffrwythlon yn ad. 23-24?
Cwestiwn 3
Wyt ti erioed wedi cael dy herio i wneud rhywbeth oedd i’w weld yn anodd iawn? Pa addewid o Air Duw allai helpu ti i ddyfalbarhau yn y sefyllfa yna?
Gweddi:
Gweddïa am nerth i ddal ati mewn sefyllfa anodd, diolcha bod Duw yn cadw ei addewidion.