Dydd Llun 2 Rhagfyr

Eseia 11:1-6

1 Ond bydd brigyn newydd yn tyfu o foncyff Jesse, 

a changen ffrwythlon yn tyfu o’i wreiddiau.

2 Bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno:

ysbryd doethineb rhyfeddol,

ysbryd strategaeth sicr,

ysbryd defosiwn a pharch at yr ARGLWYDD.

 

3 Bydd wrth ei fodd yn ufuddhau i’r ARGLWYDD:

fydd e ddim yn barnu ar sail yr olwg gyntaf,

nac yn gwneud penderfyniad ar sail rhyw si.

4 Bydd yn barnu achos pobl dlawd yn deg

ac yn rhoi dyfarniad cyfiawn i’r rhai sy’n cael eu cam-drin yn y tir.

Bydd ei eiriau fel gwialen yn taro’r ddaear

a bydd yn lladd y rhai drwg gyda’i anadl.

5 Bydd cyfiawnder a ffyddlondeb

fel belt am ei ganol.

 

6 Bydd y blaidd yn cyd-fyw gyda’r oen,

a’r llewpard yn gorwedd i lawr gyda’r myn gafr.

Bydd y llo a’r llew ifanc yn pori gyda’i gilydd,

a bachgen bach yn gofalu amdanyn nhw.

Cwestiynau

Jesse oedd tad y Brenin Dafydd. Mae’r Hen Destament yn dweud fod y Meseia yn mynd i gael ei eni i deulu Dafydd. Roedd Joseff, tad bydol Iesu, yn aelod o deulu Dafydd ac felly mae genedigaeth Iesu’n cyflawni’r addewid yma! Iesu yw’r Meseia o linach Dafydd.

Cwestiwn 1

Sut berson fyddai’r Meseia yn ôl yr adnodau hyn? (11:1-5).

Cwestiwn 2

Beth fyddai’r Meseia yn llwyddo i’w gyflawni yn ystod ei fywyd? (11:6-9)

Cwestiwn 3

Pa fath o bobl fydd yn credu yn y Meseia? Ym mha ffordd mae hyn wedi ei gyflawni gan Iesu? (11:10-16)

Gweddïo: Diolch, Dad, mai Iesu yw’r Meseia yr wyt ti wedi ei addo yn yr Hen Destament! Diolch mai ef yw ‘cangen Jesse’. Diolch fod yr Ysbryd Glân yn gorffwyso arno Ef! Plîs helpa ni i ganolbwyntio ar Iesu yn ystod y Nadolig hwn. 

Want to know more?