Dydd Llun 23 Rhagfyr

Ioan 18:37-38

37 “Felly rwyt ti yn frenin!” meddai Peilat.

 

Atebodd Iesu, “Ti sy’n defnyddio’r gair ‛brenin‛. Y rheswm pam ges i fy ngeni, a pham dw i wedi dod i’r byd ydy i dystio i beth sy’n wir go iawn. Mae pawb sydd ar ochr y gwir yn gwrando arna i.”

 

38 “Beth ydy gwirionedd?” meddai Peilat.

Cwestiynau

Cyn iddo gael ei ladd, mae Iesu yn ateb cwestiynau Pilat. Wrth ateb ei gwestiynau, mae’n esbonio pam ei fod wedi dod i’r byd. Yn ei ateb, mae’n datgelu ei fod wedi bodoli ers erioed!

Cwestiwn 1

Beth yw ateb Iesu i gwestiwn Pilat?

Cwestiwn 2

Beth mae’r adnodau hyn yn eu dangos i ni am Iesu?

Cwestiwn 3

Pam ei bod hi mor bwysig cofio fod Iesu wedi bodoli ers cychwyn amser?

Gweddïo: Diolch, Arglwydd, fod Iesu wedi dod i’r byd i dystiolaethu am y gwirionedd. Fe yw’r Brenin go iawn!
Helpa ni i gofio fod Iesu wedi bodoli hefo’r Tad a’r Ysbryd Glân ers erioed a’i fod yn Dduw.

Want to know more?