7 Dyma’r trysor mae Duw wedi ei roi i ni. Mae’n cael ei gario gynnon ni sy’n ddim byd ond llestri pridd — ffaith sy’n dangos mai o Dduw mae’r grym anhygoel yma’n dod, dim ohonon ni. 8 Er fod trafferthion yn gwasgu o bob cyfeiriad, dyn ni ddim wedi cael ein llethu’n llwyr. Dyn ni’n ansicr weithiau, ond heb anobeithio; 9 yn cael ein herlid, ond dydy Duw ddim wedi’n gadael ni; yn cael ein taro i lawr, ond yn cael ein codi yn ôl ar ein traed bob tro! 10 Wrth ddioddef yn gorfforol dyn ni’n rhannu rhyw wedd ar farwolaeth Iesu, ond mae hynny er mwyn i fywyd Iesu gael ei weld yn ein cyrff bregus ni. 11 Dyn ni sy’n fyw bob amser mewn peryg o gael ein lladd fel Iesu, er mwyn i fywyd Iesu gael ei weld yn ein cyrff marwol ni. 12 Rhaid i ni wynebu marwolaeth er mwyn i chi gael bywyd tragwyddol.