Dydd Llun 27ain Ionawr

Luc 23:26-46

26 Wrth iddyn nhw arwain Iesu i ffwrdd roedd Simon o Cyrene ar ei ffordd i mewn i’r ddinas, a dyma nhw’n ei orfodi i gario croes Iesu. 27 Roedd tyrfa fawr o bobl yn ei ddilyn, gan gynnwys nifer o wragedd yn galaru ac wylofain. 28 Ond dyma Iesu’n troi ac yn dweud wrthyn nhw, “Ferched Jerwsalem, peidiwch crio drosto i; crïwch drosoch eich hunain a’ch plant. 29 Mae’r amser yn dod pan fyddwch yn dweud, ‘Mae’r gwragedd hynny sydd heb blant wedi’u bendithio’n fawr! – y rhai sydd erioed wedi cario plentyn yn y groth na bwydo plentyn ar y fron!’ 30 A ‘byddan nhw’n dweud wrth y mynyddoedd,

“Syrthiwch arnon ni!”

ac wrth y bryniau,

“Cuddiwch ni!”’

31 Os ydy hyn yn cael ei wneud i’r goeden sy’n llawn dail, beth fydd yn digwydd i’r un sydd wedi marw?”

 

32 Roedd dau ddyn arall oedd yn droseddwyr yn cael eu harwain allan i gael eu dienyddio gyda Iesu. 33 Felly ar ôl iddyn nhw gyrraedd y lle sy’n cael ei alw ‛Y Benglog‛, dyma nhw’n hoelio Iesu ar groes, a’r ddau droseddwr arall un bob ochr iddo. 34 Ond yr hyn ddwedodd Iesu oedd, “Dad, maddau iddyn nhw. Dŷn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.” A dyma’r milwyr yn gamblo i weld pwy fyddai’n cael ei ddillad.

 

35 Roedd y bobl yno’n gwylio’r cwbl, a’r arweinwyr yn chwerthin ar ei ben a’i wawdio. “Roedd e’n achub pobl eraill,” medden nhw, “felly gadewch iddo’i achub ei hun, os mai fe ydy’r Meseia mae Duw wedi’i ddewis!”

 

36 Roedd y milwyr hefyd yn gwneud sbort am ei ben. Roedden nhw’n cynnig gwin sur rhad iddo 37 ac yn dweud, “Achub dy hun os mai ti ydy Brenin yr Iddewon!” 38 Achos roedd arwydd uwch ei ben yn dweud: DYMA FRENIN YR IDDEWON.

 

39 Yna dyma un o’r troseddwyr oedd yn hongian yno yn dechrau’i regi: “Onid ti ydy’r Meseia? Achub dy hun, a ninnau hefyd!”

 

40 Ond dyma’r troseddwr arall yn ei geryddu. “Does arnat ti ddim ofn Duw a thithau ar fin marw hefyd? 41 Dŷn ni’n haeddu cael ein cosbi am yr hyn wnaethon ni. Ond wnaeth hwn ddim byd o’i le.”

 

42 Yna meddai, “Iesu, cofia amdana i pan fyddi di’n teyrnasu.”

 

43 Dyma Iesu’n ateb, “Wir i ti – cei di ddod gyda mi i baradwys heddiw.”

 

44 Roedd hi tua chanol dydd erbyn hyn, ac aeth yn hollol dywyll drwy’r wlad i gyd hyd dri o’r gloch y p’nawn. 45 Roedd fel petai golau’r haul wedi diffodd! Dyna pryd wnaeth y llen hir oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner. 46 A dyma Iesu’n gweiddi’n uchel, “Dad, dw i’n rhoi fy ysbryd yn dy ddwylo di,” ac ar ôl dweud hynny stopiodd anadlu a marw.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Sut mae ymateb y ddau leidr i Iesu yn wahanol?

Cwestiwn 2

Beth mae profiad y lleidr wnaeth gredu yn Iesu yn ein dysgu ni am yr efengyl?

Cwestiwn 3

Pa wahaniaeth roedd cwrdd a Iesu wedi gwneud i’w fywyd?

Gweddi:

Dduw, helpa ni i roi ein ffydd yn Iesu cyn ei bod hi’n rhy hwyr. Diolch fod yr efengyl yn newyddion da i bawb, sut bynnag rydyn ni wedi byw hyd yn hyn. Amen.

Want to know more?