Dydd Llun 3ydd Chwefror

Salm 100

Salm o ddiolch.

1 Gwaeddwch yn uchel i’r ARGLWYDD

holl bobl y byd!

2 Addolwch yr ARGLWYDD yn llawen;

a dod o’i flaen gan ddathlu!

3 Cyffeswch mai’r ARGLWYDD sydd Dduw;

Fe ydy’r un a’n gwnaeth ni,

a ni ydy ei bobl e —

y defaid mae’n gofalu amdanyn nhw.

 

4 Ewch drwy’r giatiau gan ddiolch iddo,

ac i mewn i’w deml yn ei foli!

Rhowch ddiolch iddo!

A bendithio ei enw!

5 Achos mae’r ARGLWYDD mor dda!

Mae ei haelioni yn ddiddiwedd;

ac mae’n aros yn ffyddlon o un genhedlaeth i’r llall.

 

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Beth mae’r Salmydd yn ei wneud yn y Salm yma?

Cwestiwn 2

Beth mae hyn yn ein dysgu am weddi?

Cwestiwn 3

Beth sydd yn dda am Dduw?

Gweddi:

Dad, diolch dy fod ti wedi ein gwneud ni a’n bod ni’n eiddo i ti. Diolch dy fod ti’n gofalu amdanom fel bugail yn gwylio ei ddefaid.

Want to know more?