
5 “A pheidiwch gweddïo fel y rhai sy’n gwneud sioe o’u crefydd. Maen nhw wrth eu boddau pan mae pobl yn edrych arnyn nhw yn codi i weddïo yn y synagogau neu ar strydoedd prysur. Credwch chi fi, dyna’r unig wobr gân nhw! 6 Pan fyddi di’n gweddïo, dos i ystafell o’r golwg, cau y drws, a gweddïo ar dy Dad sydd yno gyda ti er dy fod ddim yn ei weld. Wedyn bydd dy Dad, sy’n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti. 7 A phan fyddwch chi’n gweddïo, peidiwch mwydro ymlaen yn ddiddiwedd fel mae’r paganiaid yn gwneud. Maen nhw’n meddwl y bydd Duw yn gwrando am eu bod yn gweddïo mor hir. 8 Peidiwch chi â bod fel yna. Mae’ch Tad chi’n gwybod yn union beth sydd ei angen arnoch chi cyn i chi ddweud gair.
9 “Dyma sut dylech chi weddïo:
‘Ein Tad sydd yn y nefoedd,
dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu.
10 Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu,
ac i’r cwbl sy’n dda yn dy olwg di
ddigwydd yma ar y ddaear fel mae’n digwydd yn y nefoedd.
11 Rho i ni ddigon o fwyd i’n cadw ni’n fyw am heddiw.
12 Maddau i ni am bob dyled i ti
yn union fel dŷn ni’n maddau
i’r rhai sydd mewn dyled i ni.
13 Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni’n cael ein profi,
ac achub ni o afael y drwg.’
14 “Os gwnewch chi faddau i bobl pan maen nhw wedi gwneud cam â chi, bydd eich Tad nefol yn maddau i chi hefyd. 15 Ond os na wnewch chi faddau i’r bobl sydd wedi gwneud cam â chi, fydd eich Tad ddim yn maddau’ch pechodau chi.
Yn y darn yma mae Iesu’n ein dysgu am weddi.
Cwestiwn 1
Beth mae’r adnodau yma’n ein dysgu am sut na ddylem weddïo?
Cwestiwn 2
Yn hytrach, sut dylem ni weddïo?
Cwestiwn 3
Yw adnod 9 yn rhoi hyder i ti i siarad gyda Duw?
Byddwn yn edrych yn fwy ar y weddi yn adnodau 9-13 yfory.
Gweddi:
Dad, diolch y gallwn ddod atoch mewn gweddi a gallwn eich galw yn Dad a chael perthynas ddofn gyda chi.