Dydd Llun 6ed Ionawr

1 Ioan 2:1-2

1 Fy mhlant annwyl, dw i’n ysgrifennu hyn atoch chi er mwyn eich helpu chi i beidio pechu. Ond os bydd rhywun yn pechu, mae gynnon ni un gyda’r Tad sy’n pledio ar ein rhan ni, sef Iesu Grist, sy’n berffaith gyfiawn a da. 2 Fe ydy’r aberth wnaeth iawn am ein pechodau ni, ac nid dim ond ein pechodau ni, ond pechodau’r byd i gyd.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Mae Ioan yn dweud ei fod wedi ysgrifennu pennod 1 i helpu’r Cristnogion rhag pechu – sut mae pennod 1 yn helpu ni i beidio pechu?

Cwestiwn 2

Mae Ioan yn real ac yn gwybod ein bod yn disgyn i bechod. Beth yw’r pethau yr wyt ti wedi eu gwneud neu feddwl sy’n anghywir yn ddiweddar?

Cwestiwn 3

Beth mae Iesu wedi ei wneud yn ôl yr adnodau yma? Sut mae hyn yn gysur i ti?  

Oes gyda thi ffrind sydd bob amser yn sefyll i fyny drosot? Mae hynny’n beth braf. Mae Iesu yn ffrind i’r Cristion ac mae’n eiriol – golyga hyn ei fod yn sefyll i fyny drosom yn y nefoedd. Mae’n medru gwneud hyn gan ei fod wedi talu’r pris yr oeddem ni’n ei haeddu am y drwg sydd yn ein calonnau. Pan fyddi di’n anobeithio dy fod wedi disgyn i bechod (eto!) cofia fynd at Iesu mewn gweddi er mwyn derbyn maddeuant llwyr.

Gweddi:

Diolch fod gyda fi eiriolwr yn y nef. Diolch fod Iesu yno’r eiliad yma yn sefyll i fyny drosof fi gan ei fod wedi talu’r pris nad oedd modd i mi ei dalu. Helpa fi i fod yn onest gyda thi drwy’r amser – er bod gyda fi gywilydd am y pethau dwi’n ei wneud a’i feddwl, dwi’n gwybod y byddi yn maddau imi.
Helpa fi i droi fy nghefn ar y pethau dwi’n eu gwneud. Dwi’n dy garu di a dwi ddim eisiau gwneud nhw ddim mwy.

Want to know more?