
67 Dyma Sachareias, tad y plentyn, yn cael ei lenwi â’r Ysbryd Glân, ac yn proffwydo fel hyn:
68 “Molwch yr Arglwydd – Duw Israel!
Mae wedi dod i ollwng ei bobl yn rhydd.
69 Mae wedi anfon un cryf i’n hachub ni –
un yn perthyn i deulu ei was,
y Brenin Dafydd.
70 Dyma’n union addawodd ymhell yn ôl, drwy ei broffwydi sanctaidd:
71 Bydd yn ein hachub ni rhag ein gelynion
ac o afael pawb sy’n ein casáu ni.
72 Mae wedi trugarhau, fel yr addawodd i’n cyndeidiau,
ac wedi cofio’r ymrwymiad cysegredig a wnaeth
73 pan aeth ar ei lw i Abraham:
74 i’n hachub ni o afael ein gelynion,
i ni allu ei wasanaethu heb ofni neb na dim,
75 a byw yn bobl sanctaidd a chyfiawn
tra byddwn fyw.
76 A thithau, fy mab bach, byddi di’n cael dy alw
yn broffwyd i’r Duw Goruchaf;
oherwydd byddi’n mynd o flaen yr Arglwydd
i baratoi’r ffordd ar ei gyfer.
77 Byddi’n dangos i’w bobl sut mae cael eu hachub
drwy i’w pechodau gael eu maddau.
78 Oherwydd mae Duw yn dirion ac yn drugarog,
ac mae ei oleuni ar fin gwawrio arnon ni o’r nefoedd.
79 Bydd yn disgleirio ar y rhai sy’n byw yn y tywyllwch
gyda chysgod marwolaeth drostyn nhw,
ac yn ein harwain ar hyd llwybr heddwch.”
Mae Ioan Fedyddiwr yn cael ei eni cyn Iesu er mwyn pwyntio pobl ato Ef ac annog pobl i gredu ynddo. Yn y gân hon, mae Sachareias, tad Ioan, yn addoli Duw am anfon Ioan i baratoi’r ffordd ar gyfer Iesu.
Cwestiwn 1
Yn ôl yr adnodau hyn, beth fydd gwaith Ioan? Edrycha’n benodol ar adnod 76.
Cwestiwn 2
Mae Sachareias yn disgrifio Iesu fel ‘yr Arglwydd’. Beth mae hyn yn ei ddweud am Iesu?
Cwestiwn 3
Beth yw’r neges mae Ioan Fedyddiwr wedi dod i’w chyhoeddi? Sut mae Iesu’n sicrhau ‘maddeuant pechodau’ i’w bobl? Edrycha’n benodol ar adnod 77.
Gweddïo: Diolch, Arglwydd, am anfon Ioan Fedyddiwr i baratoi’r ffordd ar gyfer Iesu. Diolch mai Iesu yw’r ‘Arglwydd’—Duw ei hun wedi dod yn ddyn! Diolch fod maddeuant pechodau ar gael i bwy bynnag sy’n credu yn Iesu. Helpa ni i ymddiried a chredu yn Iesu heddiw!