
1 Rhestr achau Iesu y Meseia, oedd yn un o ddisgynyddion y Brenin Dafydd, ac Abraham hefyd:
Isaac oedd tad Jacob,
Jacob oedd tad Jwda a’i frodyr,
3 Jwda oedd tad Peres a Sera (a Tamar oedd eu mam),
Peres oedd tad Hesron,
Hesron oedd tad Ram,
Aminadab oedd tad Nahson,
Nahson oedd tad Salmon,
5 Salmon oedd tad Boas (a Rahab oedd ei fam),
Boas oedd tad Obed (a Ruth oedd ei fam),
Obed oedd tad Jesse,
6 a Jesse oedd tad y Brenin Dafydd.
Dafydd oedd tad Solomon (ac roedd ei fam wedi bod yn wraig i Wreia),
Rehoboam oedd tad Abeia,
Abeia oedd tad Asa,
Jehosaffat oedd tad Jehoram,
Jehoram oedd tad Wseia,
Jotham oedd tad Ahas,
Ahas oedd tad Heseceia,
Manasse oedd tad Amon,
Amon oedd tad Joseia,
11 a Joseia oedd tad Jechoneia a’i frodyr (a hynny ar yr adeg y cafodd yr Iddewon eu caethgludo i Babilon).
12 Ar ôl y gaethglud i Babilon:
Jechoneia oedd tad Shealtiel,
Shealtiel oedd tad Sorobabel,
Abiwd oedd tad Eliacim,
Eliacim oedd tad Asor,
Sadoc oedd tad Achim,
Achim oedd tad Eliwd,
Eleasar oedd tad Mathan,
Mathan oedd tad Jacob,
16 a Jacob oedd tad Joseff (gŵr Mair – y ferch gafodd Iesu, y Meseia, ei eni iddi).
17 Felly roedd un deg pedair cenhedlaeth o Abraham i’r Brenin Dafydd, un deg pedair cenhedlaeth o Dafydd hyd nes i’r Iddewon gael eu caethgludo i Babilon, ac un deg pedair cenhedlaeth o’r gaethglud i’r Meseia.
Mae Mathew yn cychwyn ei Efengyl trwy adrodd llinach (Taid, Hen daid ayyb) Iesu Grist i ni. Mae’r llinach yn dangos mai dyn go iawn oedd Iesu ac fod holl addewidion yr Hen Destament yn cael ei cyflawni ynddo.
Cwestiwn 1
Pa enwau wyt ti’n gyfarwydd â nhw yn llinach Iesu Grist?
Cwestiwn 2
Darllena Genesis 12:2 a 2 Samuel 7:12. Sut mae genedigaeth Iesu’n cyflawni’r addewid a wnaeth Duw gydag Abraham a Dafydd?
Gweddïo: Diolch, Dad Sanctaidd, am gadw dy addewid i Abraham a Dafydd drwy anfon Iesu i’r byd!