
1 Ychydig ddyddiau wedyn, aeth Iesu yn ôl i Capernaum. Aeth y si o gwmpas ei fod wedi dod adre, 2 a daeth tyrfa mor fawr i’w weld nes bod dim lle hyd yn oed i sefyll y tu allan i’r drws. Dyma Iesu’n cyhoeddi neges Duw iddyn nhw. 3 Yna daeth rhyw bobl â dyn oedd wedi’i barlysu ato. Roedd pedwar yn ei gario, 4 ond yn methu mynd yn agos at Iesu am fod yno gymaint o dyrfa. Felly dyma nhw’n torri twll yn y to uwch ei ben, a gollwng y dyn i lawr ar y fatras oedd yn gorwedd arni. 5 Pan welodd Iesu’r ffydd oedd ganddyn nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wedi’i barlysu, “Ffrind, mae dy bechodau wedi’u maddau.”
6 Roedd rhai o’r arbenigwyr yn y Gyfraith yno. Yr hyn oedd yn mynd drwy’u meddyliau nhw oedd, 7 “Sut mae’n gallu dweud y fath beth? Cabledd ydy dweud peth felly! Duw ydy’r unig un sy’n gallu maddau pechodau!”
8 Roedd Iesu’n gwybod yn iawn mai dyna oedden nhw’n ei feddwl, ac meddai wrthyn nhw, “Pam dych chi’n meddwl mod i’n cablu? 9 Ydy’n haws dweud wrth y dyn ‘Mae dy bechodau wedi’u maddau,’ neu ‘Cod ar dy draed, cymer dy fatras a cherdda’? 10 Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear!” A dyma Iesu’n troi at y dyn oedd wedi’i barlysu, a dweud wrtho, 11 “Cod ar dy draed, cymer dy fatras, a dos adre.” 12 A dyna’n union wnaeth y dyn! Cododd ar ei draed yn y fan a’r lle, cymryd ei fatras, a cherdded allan o flaen pawb. Roedd pawb wedi’u syfrdanu’n llwyr, ac yn moli Duw. “Dŷn ni erioed wedi gweld dim byd tebyg i hyn!” medden nhw.
Cwestiwn 1
Beth wyt ti’n credu roedd y dyn yma yn gobeithio ei dderbyn gan Iesu?
Cwestiwn 2
Oes rhywbeth yn eich taro chi yn rhyfedd am adnod 5?
Cwestiwn 3
Beth mae’r wyrth yma yn ei ddysgu i ni am Iesu?
Gweddi:
Diolch Arglwydd fod gen ti’r awdurdod i’n hiachau ni o’n problem fwyaf, pechod. Helpa ni ddibynnu arnat ti i’n hiachau. Amen.