14 Gan ein bod ni’r “plant” yn bobl o gig a gwaed, daeth Iesu’n berson o gig a gwaed yn union yr un fath. Dyna sut roedd yn gallu marw i ddwyn y grym oddi ar yr un sy’n dal grym marwolaeth – hynny ydy, y diafol. 15 Mae Iesu wedi gollwng pobl yn rhydd fel bod dim rhaid iddyn nhw ofni marw bellach.
Mae gweddill y darlleniadau yn mynd i ystyried pam y daeth Iesu i’r byd. Mae’r darlleniad yma o lythyr a gafodd ei ysgrifennu i’r Hebreaid yn dangos fod Iesu wedi dod i’r byd i farw er mwyn dinistrio pŵer Satan.
Cwestiwn 1
Pam fod yn rhaid i Iesu ddod yn ddyn o ‘gig a gwaed’?
Cwestiwn 2
Beth mae marwolaeth Iesu wedi llwyddo i’w gyflawni? Gwnewch restr o’r holl bethau mae’r darlleniad yn sôn amdanynt.
Cwestiwn 3
Sut mae’r darlleniad yma yn dy wneud di’n ddiolchgar fod Duw wedi anfon Iesu i’r byd?
Gweddïo: Diolch, Dad Sanctaidd, am anfon Iesu i’r byd. Diolch ei fod wedi dod yn ddyn o gig a gwaed er mwyn gallu marw yn ein lle. Diolch fod ei farwolaeth yn ein rhyddhau ni o rym marwolaeth! Helpa ni yn ystod y Nadolig hwn i gofio fod Iesu wedi dod i’r byd i farw ar y groes.