Dydd Mawrth 18 Mawrth

Josua 15:13-19

13 Cafodd tref Ciriath-arba (sef Hebron) ei rhoi i Caleb fab Jeffwnne, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua. (Arba oedd hynafiad yr Anaciaid.) 14 Dyma Caleb yn gyrru allan dri cawr oedd yn ddisgynyddion i Anac, sef Sheshai, Achiman a Talmai. 15 Yna dyma fe’n ymosod ar y bobl oedd yn byw yn Debir. (Ciriath-seffer oedd yr hen enw ar Debir.) 16 Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy’n ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.” 17 Othniel, mab Cenas (brawd Caleb) wnaeth goncro’r dref, a dyma Caleb yn rhoi ei ferch, Achsa, yn wraig iddo. 18 Pan briododd hi Othniel, dyma hi’n ei berswadio i adael iddi ofyn i’w thad am fwy o dir. Wrth iddi ddod i lawr oddi ar gefn ei hasyn, dyma’i thad Caleb yn gofyn iddi, “Beth sy’n bod?” 19 A dyma hi’n ateb, “Dw i eisiau gofyn am rodd arall gen ti. Rwyt ti wedi rhoi tir i mi yn y Negef, ond wnei di roi ffynhonnau dŵr i mi hefyd?” A dyma Caleb yn rhoi’r ffynhonnau uchaf a’r ffynhonnau isaf iddi.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Nid oedd Caleb wedi ei eni yn Iddew! Cenesiad oedd ei dad. Er hyn nid cael byw gyda phobl Dduw’n unig mae Caleb, mae hefyd yn cael yr anrhydedd o fod yn bennaeth ar lwyth Jwda – y llwyth a fyddai un dydd yn cynhyrchu’r brenhinoedd a hyd yn oed Iesu Grist. Beth mae’r ffaith fod Caleb yn cael ei fabwysiadu yn rhan o deulu Duw yn ei ddysgu am Dduw?

Cwestiwn 2

Yn Effesiaid 1:3-6 mae’n sôn am ein mabwysiad ni fel rhan o deulu Duw. Sut mae hyn yn anogaeth i ddal ati i fyw fel plentyn i Dduw?

Cwestiwn 3

Mae Caleb yn arwain y gwaith o goncro ei ran ef o’r wlad ei hunan. Er bod Duw wedi gadael y cyfan iddo, mae’n rhaid iddo barhau i weithio’n galed a chynllunio hyd ddiwedd y frwydr. Beth mae hyn yn ei ddysgu am ein perthynas gyda Duw?

Gweddi:

Gweddïa am deulu’r eglwys leol rwyt ti’n rhan ohoni. Diolcha dy fod Ti yn blentyn i Dduw.

Want to know more?