4 Byddwch yn llawen bob amser am eich bod yn perthyn i’r Arglwydd. Dw i’n dweud eto: Byddwch yn llawen! 5 Gadewch i bawb weld eich bod yn bobl garedig. Mae’r Arglwydd yn dod yn fuan. 6 Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. 7 Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi – y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg – yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.