
16 Daeth dyn at Iesu a gofyn iddo, “Athro, pa weithred dda sy’n rhaid i mi ei gwneud i gael bywyd tragwyddol?”
17 “Pam wyt ti’n gofyn cwestiynau i mi am beth sy’n dda?” atebodd Iesu. “Does dim ond Un sy’n dda, a Duw ydy hwnnw. Os wyt ti eisiau mynd i’r bywyd, ufuddha i’r gorchmynion.”
Atebodd Iesu, “ ‘Peidio llofruddio, peidio godinebu, peidio dwyn, peidio rhoi tystiolaeth ffals,Croes 19 gofalu am dy dad a dy fam,’ a ‘caru dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun’.”
20 “Dw i wedi cadw’r rheolau yma i gyd,” meddai’r dyn ifanc, “ond mae rhywbeth ar goll.”
21 Atebodd Iesu, “Os wyt ti wir am gyrraedd y nod, dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho’r arian i bobl dlawd. Wedyn cei drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.”
22 Pan glywodd y dyn ifanc hyn, cerddodd i ffwrdd yn siomedig, am ei fod yn ddyn cyfoethog iawn.
23 Dyma Iesu’n dweud wrth ei ddisgyblion, “Credwch chi fi, mae’n anodd i rywun cyfoethog adael i’r Un nefol deyrnasu yn ei fywyd. 24 Gadewch i mi ddweud eto – mae’n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau.”
25 Roedd y disgyblion yn rhyfeddu wrth ei glywed yn dweud hyn. “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?” medden nhw. 26 Ond dyma Iesu’n edrych arnyn nhw, a dweud, “Mae’r peth yn amhosib i bobl ei wneud, ond mae Duw yn gallu! Mae Duw’n gallu gwneud popeth!”
27 Yna dyma Pedr yn ymateb, “Edrych, dŷn ni wedi gadael y cwbl i dy ddilyn di! Felly beth fyddwn ni’n ei gael?”
28 Meddai Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi – pan fydd popeth yn cael ei wneud yn newydd, a Mab y Dyn yn eistedd ar ei orsedd hardd, cewch chi sydd wedi fy nilyn i eistedd ar ddeuddeg gorsedd i farnu deuddeg llwyth gwlad Israel. 29 Bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref, a gadael brodyr a chwiorydd, tad neu fam neu blant neu diroedd er fy mwyn i yn derbyn can gwaith cymaint, ac yn cael bywyd tragwyddol. 30 Ond bydd llawer o’r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn, a’r rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen.”
Cwestiwn 1
Beth wyt ti’n meddwl roedd y dyn yma’n gobeithio clywed gan Iesu?
Cwestiwn 2
Oes disgwyl i bawb sydd eisiau dilyn Iesu rhoi eu arian i gyd i ffwrdd? Pam fod angen i’r dyn yma wneud felly?
Cwestiwn 3
Pam nad oes angen i ni ddigalonni wrth ddarllen y geiriau yma?
Gweddi:
Dad, dangos i ni ein pechodau a’n hangen ni am Iesu i’n hachub ni. Diolch am ein caru ni ac aberthu dy Fab er mwyn cyflawni’r amhosib – ein maddau ni. Amen.