
13 Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Credais, felly dwedais.”Croes Yr un ysbryd sy’n ein gyrru ni’n ein blaenau. Dyn ni hefyd wedi credu ac felly’n dweud. 14 Am fod Duw wedi codi’r Arglwydd Iesu yn ôl yn fyw, dyn ni’n gwybod y bydd yn dod â ninnau yn ôl yn fyw gyda Iesu. A byddwn ni, a chithau hefyd, yn cael bod gydag e! 15 Yn wir, dyn ni’n gwneud popeth er eich mwyn chi. Wrth i rodd Duw o fywyd fynd ar led, yn cofleidio mwy a mwy o bobl, bydd mwy a mwy o bobl yn diolch i Dduw ac yn ei addoli. 16 Dyna pam dyn ni ddim yn digalonni. Hyd yn oed os ydyn ni’n darfod yn gorfforol, dyn ni’n cael ein cryfhau’n ysbrydol bob dydd. 17 Dydy’n trafferthion presennol ni’n ddim byd o bwys, a fyddan nhw ddim yn para’n hir. Ond maen nhw’n arwain i fendithion tragwyddol yn y pen draw — ysblander sydd y tu hwnt i bob mesur! 18 Felly mae’n sylw ni wedi ei hoelio ar beth sy’n anweledig, dim ar beth welwn ni’n digwydd o’n cwmpas ni. Dydy beth sydd i’w weld ond yn para dros dro, ond mae beth sy’n anweledig yn aros am byth!
Cwestiwn 1
Sut mae canolbwyntio ar bŵer Duw yn ein helpu ni i ddal ati? Cofia, yr un pŵer a gododd Iesu o’r bedd sydd ar waith ynom ni!
Cwestiwn 2
Beth wyt ti’n ei feddwl mae Paul yn ei olygu pan mae’n dweud y dylem ganolbwyntio ‘nid ar y pethau a welir, ond ar y pethau na welir’?
Cwestiwn 3
Ydy problemau pob dydd yn tynnu dy olwg oddi wrth Dduw? Pa arferion da y medri di ei mabwysiadu bydd yn help i ti ffocysu ar Dduw?
Gweddi:
Gweddïa y bydd gras Duw ar gynnydd yn dy fywyd fel bod mwy o bobl yn dod i nabod Iesu Grist trwot ti.