Dydd Mercher 5ed Chwefror

Mathew 26:36-46

36 Dyma Iesu’n mynd gyda’i ddisgyblion i le o’r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i’n mynd draw acw i weddïo.” 37 Aeth â Pedr a dau fab Sebedeus gydag e, a dechreuodd deimlo tristwch ofnadwy a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu. 38 “Mae’r tristwch dw i’n ei deimlo yn ddigon i’m lladd i,” meddai wrthyn nhw, “Arhoswch yma i wylio gyda mi.”

39 Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar ei wyneb ar lawr a gweddïo, “Fy Nhad, gad i’r cwpan chwerw yma fynd i ffwrdd os ydy hynny’n bosib. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.”

40 Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw’n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Felly, allech chi ddim cadw golwg gyda mi am un awr fechan? 41 Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi’ch profi. Mae’r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.”

42 Yna aeth i ffwrdd a gweddïo eto, “Fy Nhad, os ydy hi ddim yn bosib cymryd y cwpan chwerw yma i ffwrdd heb i mi yfed ohono, gwna i beth rwyt ti eisiau.”

43 Ond pan ddaeth yn ôl, roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto – roedden nhw’n methu’n lân â chadw eu llygaid ar agor. 44 Felly gadawodd nhw a mynd i ffwrdd i weddïo yr un peth eto y drydedd waith.

45 Yna daeth yn ôl at ei ddisgyblion a dweud wrthyn nhw, “Dych chi’n cysgu eto? Yn dal i orffwys? Edrychwch! Mae’r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid. 46 Codwch, gadewch i ni fynd! Mae’r bradwr wedi cyrraedd!”

Cwestiynau

Cwestiwn 1

 Pam mae Iesu’n gweddïo yma?

Cwestiwn 2

Pan wyt ti yn drist neu mewn ofn wyt ti’n dod at Dduw mewn gweddi fel Iesu, neu’n cysgu fel
y disgyblion?

Cwestiwn 3

Ym mha ffordd mae gwrando ar Dduw yn rhan o weddïo?

Gweddi:

Diolch dy fod ti’n gwrando arnom ni pan fyddwn ni’n gweddïo. Diolch dy fod ti’n gallu dod atat ti pan fyddwn ni’n drist neu’n ofnus ac rwyt ti’n ein clywed ni. 

Want to know more?