
3 Dyma sut mae bod yn siŵr ein bod ni’n ei nabod e ac yn perthyn iddo – drwy fod yn ufudd iddo. 4 Mae’r bobl hynny sy’n dweud, “Dw i’n ei nabod e,” ond ddim yn gwneud beth mae e’n ei ddweud yn dweud celwydd, a dŷn nhw ddim yn ffyddlon i’r gwir. 5 Ond os ydy rhywun yn ufudd i beth mae Duw’n ddweud, mae’n amlwg fod cariad Duw yn llenwi bywyd y person hwnnw. Dyma sut mae bod yn siŵr ein bod ni’n perthyn iddo: 6 rhaid i bwy bynnag sy’n honni perthyn iddo fyw fel oedd Iesu’n byw.
Cwestiwn 1
Yn dy farn di sy’n dangos fod rhywun yn Gristion?
Cwestiwn 2
Beth, yn ôl Ioan, ddylai agwedd rhywun sy’n adnabod Duw fod tuag at y Beibl a gorchmynion Duw?
Cwestiwn 3
Sut fedrwn ni ddangos ein bod o ddifrif yn dilyn Duw?
Mae dod yn Gristion yn golygu fod rhywbeth wedi digwydd i ni – ac mae hyn yn cael ei ddangos yn yr hyn yr ydym yn ei wneud a’i deimlo. Tydi Ioan yn yr adnodau yma ddim yn dweud fod yn rhaid i rywun fod yn berffaith i fod yn Gristion (cofia mai wedi dangos yn barod fod Iesu yn maddau i ni pan ‘rydym yn pechu). Mae yma yn son am agwedd ein calon. Mae’n hawdd iawn i berson sydd ddim yn Gristion ddweud ei fod yn credu yn Iesu ond ei ddefnyddio fel ffordd i fyw ei fywyd fel y mae ei eisiau gan anghofio am Dduw. Ond mae calon y Cristion wedi newid, ac felly fe ddylai fod eisiau gwneud yr hyn sydd yn iawn gan ddilyn ffordd Duw.
Gweddi:
Diolch Dad dy fod ti yn rhoi calon newydd i bob Cristion. Diolch nad rhywbeth sydd yn rhaid i ni ei wneud ein hunain ydi hyn, yn hytrach rhywbeth y mae dy Ysbryd di yn ei wneud yn ein calon. O Dduw dwi eisiau i’r Ysbryd weithio yn fy nghalon i, a dwi eisiau dilyn dy ffyrdd di. Dwi’n sori pan ‘dwi’n methu, ond plîs helpa fi i wneud hyn. Dwi’n gweddïo hyn yn enw Iesu sydd wedi marw drosof i.