
1 Tua’r un adeg dyma Cesar Awgwstws yn gorchymyn cynnal cyfrifiad drwy’r Ymerodraeth Rufeinig i gyd. 2 (Hwn oedd y cyfrifiad cyntaf, gafodd ei gynnal cyn bod Cwiriniws yn llywodraethwr Syria.) 3 Roedd pawb yn mynd adre i’r trefi lle cawson nhw eu geni, i gofrestru ar gyfer y cyfrifiad.
4 Felly gan fod Joseff yn perthyn i deulu’r Brenin Dafydd, gadawodd Nasareth yn Galilea, a mynd i gofrestru yn Jwdea – yn Bethlehem, hynny ydy tref Dafydd. 5 Aeth yno gyda Mair oedd yn mynd i fod yn wraig iddo, ac a oedd erbyn hynny’n disgwyl babi. 6 Tra oedden nhw yno daeth yn amser i’r babi gael ei eni, 7 a dyna lle cafodd ei phlentyn cyntaf ei eni – bachgen bach. Dyma hi’n lapio cadachau geni yn ofalus amdano, a’i osod i orwedd mewn cafn ar gyfer bwydo anifeiliaid. Doedd dim llety iddyn nhw aros ynddo.
Mae Luc yn adrodd hanes genedigaeth Iesu. Mae Duw yn gwneud yn siŵr fod Iesu’n cael ei eni ym Methlehem er mwyn cyflawni proffwydoliaeth yr Hen Destament.
Cwestiwn 1
Sut mae’r hanes yma’n dangos fod Duw yn rheoli popeth?
Cwestiwn 2
Pa wybodaeth mae Luc yn ei roi yma i ddangos i ni mai digwyddiad hanesyddol a ffeithiol oedd genedigaeth Iesu Grist? Edrychwch yn benodol ar yr enwau mae Luc yn eu rhestru.
Gweddïo: Diolch, Dad Sanctaidd, mai ti yw’r un sy’n llywodraethu dros bopeth! Diolch am gynllunio i Awgwstws Cesar drefnu adolygiad er mwyn symud Iesu i Fethlehem. Diolch fod genedigaeth Iesu yn ddigwyddiad hanesyddol, go iawn. Rwyt ti wirioneddol wedi anfon dy Fab i’r byd!