
1 Yr un sydd wedi bodoli o’r dechrau cyntaf – dŷn ni wedi’i glywed e a’i weld e. Do, dŷn ni wedi edrych arno â’n llygaid ein hunain, a’i gyffwrdd â’n dwylo! Gair y bywyd! 2 Daeth y bywyd ei hun i’r golwg, a dŷn ni wedi’i weld e. Gallwn dystio iddo, a dyma dŷn ni’n ei gyhoeddi i chi – y bywyd tragwyddol oedd gyda’r Tad ac sydd wedi dangos ei hun i ni. 3 Ydyn, dŷn ni’n sôn am rywbeth dŷn ni wedi’i weld a’i glywed. Dŷn ni eisiau i chithau brofi’r wefr gyda ni o rannu yn y berthynas yma gyda Duw y Tad, a gyda’i Fab, Iesu y Meseia. 4 Dŷn ni’n ysgrifennu hyn er mwyn i ni i gyd fod yn wirioneddol hapus.
Cwestiwn 1
Am beth mae Ioan yn son amdano yn yr adnodau hyn? Pa ddigwyddiadau mae Ioan wedi gweld? (Mae Ioan hefyd wedi ysgrifennu llyfr yn y Beibl – beth am gael golwg drwyddo i gael gweld beth mae Ioan wedi ei weld).
Cwestiwn 2
Pam fod Ioan eisiau rhannu’r hyn mae wedi ei weld a’i ddysgu? (adnod 3 a 4)
Cwestiwn 3
Ym mha ffyrdd mae hyn yn rhoi sicrwydd i ti dy fod wedi credu’r pethau cywir?
Mae Ioan yn cychwyn y llythyr drwy ddangos ei fod yn ysgrifennu am ddigwyddiadau a pherson mae wedi ei weld a’i brofi. Mae hyn yn gymorth mawr gan ein bod yn gwybod ein bod yn darllen geiriau rhywun oedd yn llygad-dyst.
Gweddi:
Diolch Dad dy fod ti’n real. Diolch nad wyt ti’n gofyn i ni gredu mewn pethau sydd wedi eu gwneud i fyny – yn hytrach rwyt ti wedi cael pobl ysgrifennu’r hyn maen nhw wedi gweld fel ein bod yn gwybod fod y cyfan yn wir. Plîs cryfhau fy ffydd ac agor llygaid fy nghalon i weld mai Iesu yw dy fab di. Amen