Dydd Mercher 4 Rhagfyr

Eseia 40:9-11

9 Seion, sy’n cyhoeddi newyddion da,

dringa i ben mynydd uchel!

Ie, Jerwsalem, sy’n cyhoeddi newyddion da,

gwaedda’n uchel!

Gwaedda! Paid bod ag ofn!

Dwed wrth drefi Jwda:

“Dyma’ch Duw chi!”

 

10 Edrych! Mae’r Meistr, yr ARGLWYDD,

yn dod fel milwr cryf

i deyrnasu gyda nerth.

Edrych! Mae ei wobr ganddo;

mae’n dod â’i roddion o’i flaen.

11 Bydd yn bwydo’i braidd fel bugail;

bydd yn codi’r ŵyn yn ei freichiau

ac yn eu cario yn ei gôl,

tra’n arwain y defaid sy’n eu magu.

Cwestiynau

Mae’r Eseia yn y darn yma yn proffwydo dyfodiad yr Arglwydd Iesu drwy gyfeirio at ‘newyddion da’ fydd yn cael ei gyhoeddi.

Cwestiwn 1

Ydy’r darn yma o’r Beibl yn dy wneud yn hapus? Pam?

Cwestiwn 2

Beth mae Eseia’n ei ddweud sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol?

Cwestiwn 3

 Sut mae Iesu Grist yn cyflawni’r geiriau hyn. Darllen Ioan 10:11 i dy helpu.

Gweddïo: Diolch, Dad, mai Iesu yw’r ‘Bugail Da’ sy’n cyflawni’r broffwydoliaeth hon. Diolch dy fod ti dy hun wedi dod i’r byd yn Iesu Grist. Helpa ni i ryfeddu arnat ti yn ystod y Nadolig hwn! 

Want to know more?