Dydd Mercher 5 Mawrth

Effesiaid 1:15-23

15 Ers i mi glywed gyntaf am eich ffyddlondeb i’r Arglwydd Iesu a’ch cariad at Gristnogion eraill, 16 dw i ddim wedi stopio diolch i Dduw amdanoch chi. Dw i’n cofio amdanoch chi bob tro dw i’n gweddïo. 17 Dw i’n gofyn i Dduw, Tad bendigedig ein Harglwydd Iesu Grist, roi’r Ysbryd i chi i’ch goleuo a’ch gwneud yn ddoeth, er mwyn i chi ddod i’w nabod yn well. 18 Dw i’n gweddïo y daw’r cwbl yn olau i chi. Dw i eisiau i chi ddod i weld yn glir a deall yn union beth ydy’r gobaith sydd ganddo ar eich cyfer, a gweld mor wych ydy’r lle bendigedig sydd ganddo i’w bobl. 19 Dw i hefyd am i chi sylweddoli mor anhygoel ydy’r nerth sydd ar gael i ni sy’n credu. Dyma’r pŵer aruthrol 20 wnaeth godi’r Meseia yn ôl yn fyw a’i osod i eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw yn y byd nefol.Croes 21 Mae’n llawer uwch nag unrhyw un arall sy’n teyrnasu neu’n llywodraethu, ac unrhyw rym neu awdurdod arall sy’n bod. Does gan neb na dim deitl tebyg iddo – yn y byd yma na’r byd sydd i ddod! 22 Mae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdod. Croes Mae wedi’i wneud e yn ben ar y cwbl – er lles yr eglwys. 23 Yr eglwys ydy ei gorff e – mae’n llawn ohono fe sy’n llenwi’r bydysawd cyfan â’i bresenoldeb.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Beth mae Paul yn ei weddïo dros yr Effesiaid?

Cwestiwn 2

Wyt ti’n meddwl y medri di ddefnyddio’r weddi hon?

Gweddi:

Defnyddia’r weddi i weddïo dros dy hunan, dy ffrindiau a’th deulu.

Want to know more?