Dydd Mercher 2 Ebrill

Salm 37:23-26

23 Mae’r ARGLWYDD yn sicrhau llwyddiant

yr un sy’n byw i’w blesio.

24 Bydd yn baglu weithiau, ond fydd e ddim yn syrthio ar ei wyneb,

achos mae’r ARGLWYDD yn gafael yn ei law.

25 Roeddwn i’n ifanc ar un adeg, ond bellach dw i mewn oed.

Dw i erioed wedi gweld rhywun sy’n byw yn iawn yn cael ei siomi gan Dduw,

na’i blant yn gorfod chwilio am fwyd.

26 Mae bob amser yn hael ac yn benthyg i eraill,

ac mae ei blant yn cael eu bendithio.

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Sut mae Duw yn bendithio ei bobl?

Cwestiwn 2

Mae ad. 25-26 yn dweud fod y rhai sy’n cael eu bendithio yn fendith i rai eraill. Ydy’r fendith yma yn gorlifo allan o dy fywyd di drwy’r ffordd yr wyt yn ymdrin â phobl eraill?

Cwestiwn 3

Sut y medri di fod yn fendith heddiw?

Gweddi:

Gweddïa y bydd bendithio Duw yn gorlifo o dy fywyd Duw i bobl eraill. Diolcha i Dduw am ei holl fendithion.

Want to know more?