Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr

Luc 2:8-21

8 Yn ardal Bethlehem roedd bugeiliaid allan drwy’r nos yn yr awyr agored yn gofalu am eu defaid. 9 Yn sydyn dyma nhw’n gweld un o angylion yr Arglwydd, ac roedd ysblander yr Arglwydd fel golau llachar o’u cwmpas nhw. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. 10 Ond dyma’r angel yn dweud wrthyn nhw, “Peidiwch bod ofn. Mae gen i newyddion da i chi! Newyddion fydd yn gwneud pobl ym mhobman yn llawen iawn. 11 Mae eich Achubwr wedi cael ei eni heddiw, yn Bethlehem (tref y Brenin Dafydd). Ie, y Meseia! Yr Arglwydd! 12 Dyma sut byddwch chi’n ei nabod e: Dewch o hyd iddo yn fabi bach wedi’i lapio mewn cadachau ac yn gorwedd mewn cafn bwydo anifeiliaid.”

 

13 Yn sydyn dyma filoedd o angylion eraill yn dod i’r golwg, roedd fel petai holl angylion y nefoedd yno yn addoli Duw!

14 “Gogoniant i Dduw yn y nefoedd uchaf,

heddwch ar y ddaear islaw,

a bendith Duw ar bobl.”

 

15 Pan aeth yr angylion i ffwrdd yn ôl i’r nefoedd, dyma’r bugeiliaid yn dweud wrth ei gilydd, “Dewch! Gadewch i ni fynd i Bethlehem, i weld beth mae’r Arglwydd wedi’i ddweud wrthon ni sydd wedi digwydd.”

 

16 Felly i ffwrdd â nhw, a dyma nhw’n dod o hyd i Mair a Joseff a’r babi bach yn gorwedd mewn cafn bwydo anifeiliaid. 17 Ar ôl ei weld, dyma’r bugeiliaid yn mynd ati i ddweud wrth bawb beth oedd wedi digwydd, a beth ddwedodd yr angel wrthyn nhw am y plentyn yma. 18 Roedd pawb glywodd am y peth yn rhyfeddu at yr hyn roedd y bugeiliaid yn ei ddweud. 19 Ond roedd Mair yn cofio pob manylyn ac yn meddwl yn aml am y cwbl oedd wedi cael ei ddweud am ei phlentyn. 20 Aeth y bugeiliaid yn ôl i’w gwaith gan ganmol a moli Duw am bopeth roedden nhw wedi’i weld a’i glywed. Roedd y cwbl yn union fel roedd yr angel wedi dweud.

21 Pan oedd y plentyn yn wythnos oed cafodd ei enwaedu, a’i alw yn Iesu. Dyna oedd yr enw roddodd yr angel iddo hyd yn oed cyn iddo gael ei genhedlu yng nghroth Mair.

Cwestiynau

Y rhai cyntaf i ymweld â’r Arglwydd Iesu wedi iddo gael ei eni oedd criw o fugeiliaid. Mae angylion yn ymddangos iddynt gan rannu’r newyddion fod y Meseia wedi cael ei eni.

Cwestiwn 1

Pam fod y newyddion mae’r angel yn ei gyhoeddi yn ‘newydd da am lawenydd mawr’?

Cwestiwn 2

Pa dri theitl mae’r angel yn eu rhoi i Iesu? Beth yw ystyr pob un o’r teitlau hyn.

Cwestiwn 3

Beth yw ymateb y bugeiliaid ar ôl iddynt weld Iesu? Pam y dylwn ni ymateb yn yr un ffordd
heddiw?

Gweddïo: Diolch, Dad, mai Iesu yw’r Gwaredwr, y Meseia a’r Arglwydd! Diolch fod ei enedigaeth yn newyddion da i ni. Helpa ni i ymateb fel y bugeiliaid drwy rannu am Iesu gyda’r rhai sydd o’n cwmpas! Helpa ni i dy ‘ogoneddu’ a dy ‘foli’ fel y mae’r bugeiliaid yn wneud. 

Want to know more?