
31 “Mae’r amser yn dod,” meddai’r ARGLWYDD, “pan fydda i’n gwneud ymrwymiad newydd gyda phobl Israel a Jwda. 32 Fydd hwn ddim yr un fath â’r un wnes i gyda’u hynafiaid (pan afaelais yn eu llaw a’u harwain allan o’r Aifft). Roedden nhw wedi torri amodau’r ymrwymiad hwnnw, er fy mod i wedi bod yn ŵr ffyddlon iddyn nhw. 33 Dyma’r ymrwymiad fydda i’n ei wneud gyda phobl Israel bryd hynny,” meddai’r ARGLWYDD: “Bydda i’n rhoi fy nghyfraith yn eu calonnau nhw, ac yn ei hysgrifennu ar eu meddyliau nhw. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i. 34 Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill, a dweud wrth ei gilydd, ‘Rhaid i ti ddod i nabod yr ARGLWYDD’. Byddan nhw i gyd yn fy nabod i, y bobl gyffredin a’r arweinwyr, am fy mod i’n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o’i le, ac yn anghofio’u pechodau am byth.”
35 Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud –
yr un sydd wedi gosod trefn i’r haul roi golau’n y dydd
a’r lleuad a’r sêr roi eu golau’n y nos,Croes
yr un sy’n corddi’r môr yn donnau mawr –
yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw e:
36 “Byddai dileu pobl Israel fel cenedl
yr un fath â chael gwared â threfn natur!”
37 Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:
“Mae’n amhosib mesur yr awyr a’r gofod,
neu archwilio sylfeini’r ddaear.
Mae’r un mor amhosib i mi wrthod pobl Israel
am bopeth drwg maen nhw wedi’i wneud,”
—yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
38 “Mae’r amser yn dod,” meddai’r ARGLWYDD, “pan fydd dinas Jerwsalem yn cael ei hadeiladu i mi eto, o Dŵr Chanan-el i Giât y Gornel. 39 Bydd ei ffiniau’n ymestyn i’r gorllewin at Fryn Gareb ac yna’n troi i’r de i lawr i Goath. 40 Bydd hyd yn oed y dyffryn lle cafodd yr holl gyrff marw a’u lludw eu taflu, a’r holl gaeau i lawr at Ddyffryn Cidron yn y dwyrain at gornel Giât y Ceffylau, yn rhan o’r ddinas fydd wedi’i chysegru i’r ARGLWYDD. Fydd y ddinas ddim yn cael ei chwynnu na’i bwrw i lawr byth eto.”
Mae’r Proffwyd Jeremeia yn dweud y bydd dydd yn dod yn y dyfodol pan fydd Duw yn gwneud cyfamod newydd â’i bobl. Bob Nadolig, rydym yn cofio fod hyn wedi ei wireddu pan ddaeth Iesu i’r byd.
Cwestiwn 1
Beth yw ystyr ‘cyfamod’? Edrycha ar Genesis 15 os wyt angen help (cliw – mae’n debyg i contract).
Cwestiwn 2
Ym mha ffordd mae’r cyfamod newydd yn mynd i fod yn wahanol i’r hen gyfamod?
Cwestiwn 3
Mae’r Arglwydd yn dweud yn adnod 34 y bydd yn maddau ‘drygioni’ ac yn anghofio ‘pechodau’ yn y cyfamod newydd. Sut mae Iesu wedi gwneud hyn?
Gweddïo: Diolch, Dad, fod proffwydoliaeth Jeremeia am gyfamod newydd yn dod yn wir drwy fywyd Iesu.
Diolch fod Iesu wedi marw ar y groes er mwyn talu’r pris yr ydym yn ei haeddu am ein drygioni a’n pechod.