Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr

Luc 1:26-38

26 Pan oedd Elisabeth chwe mis yn feichiog, anfonodd Duw yr angel Gabriel i Nasareth, un o drefi Galilea, 27 at ferch ifanc o’r enw Mair. Roedd Mair yn wyryf (heb erioed gael rhyw), ac wedi’i haddo’n wraig i ddyn o’r enw Joseff. Roedd e’n perthyn i deulu y Brenin Dafydd. 28 Dyma’r angel yn mynd ati a’i chyfarch, “Mair, mae Duw wedi dangos ffafr atat ti! Mae’r Arglwydd gyda ti!”

 

29 Ond gwnaeth yr angel i Mair deimlo’n ddryslyd iawn. Doedd hi ddim yn deall o gwbl beth roedd yn ei feddwl. 30 Felly dyma’r angel yn dweud wrthi, “Paid bod ofn, Mair. Mae Duw wedi dewis dy fendithio di’n fawr. 31 Rwyt ti’n mynd i fod yn feichiog, a byddi di’n cael mab. Iesu ydy’r enw rwyt i’w roi iddo. 32 Bydd yn ddyn pwysig iawn, a bydd yn cael ei alw’n Fab y Duw Goruchaf. Bydd yr Arglwydd Dduw yn ei osod i eistedd ar orsedd y Brenin Dafydd, 33 a bydd yn teyrnasu dros bobl Jacob am byth. Fydd ei deyrnasiad byth yn dod i ben!”

 

34 Ond meddai Mair, “Sut mae’r fath beth yn bosib? Dw i erioed wedi cael rhyw gyda neb.”

 

35 Dyma’r angel yn esbonio iddi, “Bydd yr Ysbryd Glân yn dod arnat ti, a nerth y Duw Goruchaf yn gofalu amdanat ti. Felly bydd y plentyn fydd yn cael ei eni yn berson sanctaidd – bydd yn cael ei alw yn Fab Duw. 36 Meddylia! Mae hyd yn oed Elisabeth, sy’n perthyn i ti, yn mynd i gael babi er ei bod hi mor hen. Roedd pawb yn gwybod ei bod hi’n methu cael plant, ond mae hi chwe mis yn feichiog! 37 Rwyt ti’n gweld, does dim byd sy’n amhosib i Dduw ei wneud.”

 

38 A dyma Mair yn dweud, “Dw i eisiau gwasanaethu’r Arglwydd Dduw. Felly gad i beth rwyt wedi’i ddweud ddod yn wir.” Wedyn dyma’r angel yn ei gadael hi.

Cwestiynau

Wedi edrych ar ddarnau o’r Hen Destament sy’n proffwydo fod Iesu yn mynd i ddod yn berson go iawn a byw ar y Ddaear, rhaid troi yn awr i edrych ar hanes geni Iesu. Edrychwn yn gyntaf ar hanes yr angel Gabriel yn dweud wrth Mair fod Iesu’n mynd i gael ei eni iddi.

Cwestiwn 1

Sut mae Mair yn ymateb i eiriau Gabriel? Pam ei bod hi’n ymateb fel hyn? Sut mae Gabriel yn mynd ati i’w chysuro?

Cwestiwn 2

Sut mae Gabriel yn disgrifio Iesu yn 1:31-33. Ym mha ffordd mae’r disgrifiad hwn yn gysylltiedig â’r hyn oedd yr holl broffwydi yn ei ddweud am Iesu?

Cwestiwn 3

Pam, yn ôl adnod 35, fod genedigaeth Iesu Grist yn wahanol i bob genedigaeth arall?

Gweddïo: Diolch, Dad, am anfon dy Fab i’r byd. Diolch fod Iesu wedi’i eni o’r Ysbryd Glân ac felly nid oes ôl pechod arno. Helpa ni i gofio’r Nadolig hwn fod Iesu Grist yn gwbl ddynol ac yn gwbl ddwyfol. 

Want to know more?