Dydd Sul 22 Rhagfyr

Ioan 17:18

18 Dw i yn eu hanfon nhw allan i’r byd yn union fel wnest ti fy anfon i. 

Cwestiynau

Yn yr adnod yma yn Efengyl Ioan, mae Iesu’n sôn ein bod ni’n cael ein hanfon ganddo i rannu’r newyddion da am ei ddyfodiad. Mae mor bwysig ein bod ni’n rhannu’r newyddion da am Iesu gyda’n ffrindiau a’n teulu dros y Nadolig.

Cwestiwn 1

Beth mae Iesu’n ei olygu pan mae’n dweud ei fod yn ein ‘hanfon’ ni i’r byd?

Cwestiwn 2

Pam mae mor bwysig rannu’r newyddion da am Iesu gyda’n ffrindiau a’n teuluoedd? Pam mae’n gallu bod anodd gwneud hynny?

Gweddïo: Diolch, Dad Sanctaidd, am anfon Iesu Grist i’r byd! Diolch fod Iesu nawr yn ein hanfon ni i rannu’r newyddion da amdano! Helpa ni i siarad gyda’n ffrindiau a’n teulu am Iesu yn ystod y Nadolig.

Want to know more?