
1 Yna gadawodd Iesu’r fan honno, a mynd i Jwdea a’r ardal yr ochr draw i’r Iorddonen. Unwaith eto daeth tyrfa o bobl ato, ac fel arfer buodd wrthi’n eu dysgu.
2 Dyma Phariseaid yn dod ato i geisio’i faglu drwy ofyn: “Ydy’r Gyfraith yn dweud ei bod yn iawn i ddyn ysgaru ei wraig?”
3 Atebodd Iesu, “Beth oedd y gorchymyn roddodd Moses i chi?”
4 “Dwedodd Moses ei fod yn iawn,” medden nhw, “Dim ond i ddyn roi tystysgrif ysgariad iddi cyn ei hanfon i ffwrdd.”Croes
5 “Wyddoch chi pam ysgrifennodd Moses y ddeddf yna?” meddai Iesu. “Am fod pobl fel chi mor ystyfnig! 6 Pan greodd Duw bopeth ar y dechrau cyntaf, gwnaeth bobl ‘yn wryw ac yn fenyw’.Croes 7 ‘Felly bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam, ac yn cael ei uno â’i wraig, 8 a bydd y ddau yn dod yn un.’Croes Dim dau berson ar wahân ydyn nhw wedyn, ond uned. 9 Felly ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi’i uno!”
10 Pan oedden nhw yn ôl yn y tŷ, dyma’r disgyblion yn holi Iesu am hyn 11 Dwedodd wrthyn nhw: “Mae unrhyw un sy’n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu.” 12 (Ac os ydy gwraig yn ysgaru ei gŵr er mwyn priodi dyn arall, mae hithau’n godinebu.)
Beth yw’r pethau sy’n gwneud priodas yn bwysig?
Beth mae’n golygu i ddweud wrth briodi nad dau berson sydd yno bellach, ond un cnawd?
Ers blynyddoedd, mae ein cymdeithas wedi colli golwg ar beth mor dda a difrifol yw priodas. Yn hytrach na’i gweld hi fel cytundeb i dreulio gweddill eich bywyd gyda pherson arall gan garu a chefnogi eich gilydd wrth wasanaethu Duw, mae llawer o bobl yn meddwl mai rhywbeth dros dro yw hi, sy’n gallu cael ei dorri os ydych chi’n newid eich meddwl. Mae’n siŵr fod pob un ohonom ni wedi gweld effeithiau trist priodas yn torri.
Hyd yn oed yn nyddiau Iesu, roedd llawer o ddadlau am pryd roedd hi’n iawn i chi ysgaru eich gwraig. Mae’r Phariseaid yn dod at Iesu unwaith eto er mwyn gweld beth oedd ganddo fe i’w ddweud ar y pwnc. I ddechrau mae Iesu yn gofyn iddyn nhw beth mae’r gyfraith Iddewig yn ei ddweud. Mae’n amlwg fod y gyfraith (a ddaeth trwy Moses) yn caniatáu ysgariad oherwydd fod calonnau’r bobl yn galed. Yr hyn y mae Iesu am iddyn nhw ei weld yw nid beth oedd y safon isaf roedd Duw yn ei chaniatáu iddyn nhw, and beth oedd ei ddymuniad ar eu cyfer. Mae’n dweud wrthyn nhw i gofio am y ffordd y creodd Duw bobl yn wryw a benyw. Mae priodas yn dda oherwydd dyma’r patrwm mae Duw wedi ei drefnu – fod un dyn ac un fenyw yn gadael eu teuluoedd ac yn ffurfio teulu newydd. Mae’r ddau berson gwahanol yma yn cysylltu’n llwyr â’i gilydd, gan ddod yn un corff, er mwyn helpu ei gilydd i wasanaethu Duw a magu plant mewn cartref cariadus.
Os yw hyn yn wir, os yw priodas yn golygu eich bod yn un corff â’r person arall, yna’r peth olaf ddylai fod ar eich meddwl yw cael eich rhannu oddi wrth y person hwnnw. Yr agwedd y dylem ei chael wrth briodi yw ein bod yn mynd i fod gyda’r person arall nes bod marwolaeth yn ein gwahanu.
Yn rhyfeddol iawn mae rhannau eraill o’r Testament Newydd yn dysgu fod priodas yn ddarlun o’r berthynas rhwng Iesu Grist (y gŵr) a’r Eglwys (y wraig). Mae’r darlun hwn yn dweud llawer o bethau wrthym, ond o weld agwedd Iesu at briodas mae’n roi sicrwydd i ni na fydd ef byth yn torri’r berthynas honno.
Wrth feddwl am y ffordd y creodd Duw un dyn ac un fenyw, beth mae hyn yn dweud wrthym am y berthynas gywir rhwng gŵr a gwraig?
Pam ydych chi’n credu y cynlluniodd Duw’r ffordd hon o gael perthynas?
os bwriad Duw yw i chi briodi, y bydd yn rhoi doethineb i chi wrth ddewis cymar am oes, a nerth i barhau yn y berthynas honno am weddill eich bywyd.