
Meddai Ioan wrtho, “Athro, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a buom yn ei wahardd, am nad oedd yn ein dilyn ni.” Ond dywedodd Iesu, “Peidiwch â’i wahardd, oherwydd ni all neb sy’n gwneud gwyrth yn fy enw i roi drygair imi yn fuan wedyn. Y sawl nid yw yn ein herbyn, drosom ni y mae. Oherwydd pwy bynnag a rydd gwpanaid o ddŵr i chwi i’w yfed o achos eich bod yn perthyn i’r Meseia, yn wir, rwy’n dweud wrthych, ni chyll ei wobr. “A phwy bynnag sy’n achos cwymp i un o’r rhai bychain hyn sy’n credu ynof fi, byddai’n well iddo fod wedi ei daflu i’r môr â maen melin mawr ynghrog am ei wddf. Os bydd dy law yn achos cwymp iti, tor hi ymaith; y mae’n well iti fynd i mewn i’r bywyd yn anafus na mynd, a’r ddwy law gennyt, i uffern, i’r tân anniffoddadwy. Ac os bydd dy droed yn achos cwymp iti, tor ef ymaith; y mae’n well iti fynd i mewn i’r bywyd yn gloff na chael dy daflu, a’r ddau droed gennyt, i uffern. Ac os bydd dy lygad yn achos cwymp iti, tyn ef allan; y mae’n well iti fynd i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog na chael dy daflu, a dau lygad gennyt, i uffern, lle nid yw eu pryf yn marw na’r tân yn diffodd. Oblegid fe helltir pob un â thân. Da yw’r halen, ond os paid yr halen â bod yn hallt, â pha beth y rhowch flas arno? Bydded gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlon tuag at eich gilydd.”
Pam y mae pechod yn beth mor ddifrifol?
Ydych chi erioed wedi barnu Cristion arall oherwydd ei fod yn gwneud rhai pethau yn wahanol i chi?
Rydyn ni’n aml yn feirniadol o bobl eraill os nad ydyn nhw yn gwneud pethau yn union yr un ffordd â ni. Rydym yn hoffi meddwl mai gennym ni y mae’r ateb i bopeth, ac felly rydym yn amau pobl sydd yn ymddwyn yn wahanol.
Ar ddiwedd Marc 9:30-37 fe ddywedodd Iesu ei bod yn bwysig i groesawu hyd yn oed plant bach yn ei enw ef. Mae loan yn rhyfeddu at yr awgrym y dylid derbyn pawb. Felly dyma fe’n dweud wrth Iesu am y ffordd roedd e a’r disgyblion wedi rhwystro dyn rhag helpu pobl yn enw Iesu Grist oherwydd nad oedd yn un ohonyn nhw. Ond roedd y dyn hwnnw yn llwyddo i wneud pethau mawr yn enw Iesu, oherwydd ei fod wedi credu ynddo. Roedd y disgyblion yn ceisio cyfyngu pwy oedd yn cael dilyn Iesu.
Ymateb Iesu yw dweud, os nad yw rhywun yn elyn i waith Duw, yna maen nhw ar yr un ochr. Roedd y disgyblion yn ceisio rhwystro rhywun oedd yn credu yn Iesu. Mae hyn yn bechod difrifol sy’n ei gwneud hi’n anodd i’r person arall ddilyn Iesu. Y rheswm mae pechod mor ddifrifol yw oherwydd mae’n arwain i uffern, sy’n lle dychrynllyd. Mae’n lle o boen a dioddefaint sydd angen ei osgoi. Does dim byd yn fwy pwysig na sicrhau nad ydych yn mynd yno – hyd yn oed petai hynny’n golygu torri rhannau o’ch corff i ffwrdd. Wrth gwrs dydy Iesu ddim yn disgwyl i ni ddechrau gwneud hyn go iawn oherwydd nid ein llygaid na’n dwylo na’n traed sy’n achosi i ni bechu ond ein calon. Gan nad ydym yn gallu torri honno allan, mae angen i Dduw roi calon newydd i ni. Wedi i hynny ddigwydd, fe fydd yn bosibl i ni dorri allan y pethau hynny yn ein bywyd sy’n ein harwain i bechu.
Ar ddiwedd amser mae pob un ohonom yn mynd i gael ein barnu gan Dduw. Os ydyn ni am gael ein derbyn gan Dduw, yna mae’n rhaid i ni fod yn bur y tu mewn. Fel mae halen yn cadw pethau yn bur, rhaid i ni gael ein golchi yn lan gan Iesu Grist. Heb hyn fe fyddwn fel halen sydd wedi colli ei halltrwydd – yn amhur ac yn dda i ddim byd ond i gael ein dinistrio yn y tân. Un arwydd bod Duw wir ar waith yn ein bywyd yw y ffaith na fyddwn ni ddim yn rhwystro pobl eraill sy’n dibynnu ar Iesu Grist, ond yn byw mewn heddwch ag eraill.
Ym mha ffyrdd gallwch chi gael gwared ar bechod yn eich bywyd?
Pa effaith ddylai feddwl am realiti uffern ei chael arnom ni?
gan ddiolch i Iesu ei fod e wedi dioddef uffern ar y groes, fel bod dim rhaid i chi wneud.