
1 Pam mae’r cenhedloedd yn gwrthryfela?
Pam mae pobloedd yn gwastraffu eu hamser yn cynllwynio?
2 Mae brenhinoedd daearol yn gwneud safiad;
a’r llywodraethwyr yn dod at ei gilydd i ymladd
yn erbyn yr ARGLWYDD a’r un mae wedi’i ddewis, y brenin.
3 “Gadewch i ni dorri’n rhydd o’u cadwynau,
a thaflu’r rhaffau sy’n ein rhwymo i ffwrdd!”
4 Mae’r Un sydd ar ei orsedd yn y nefoedd yn chwerthin —
maen nhw’n destun sbort i’r ARGLWYDD!
5 Wedyn mae’n eu dychryn am ei fod mor ffyrnig,
ac yn dweud wrthyn nhw’n ddig:
6 “Dw i wedi gosod fy mrenin yn Seion,
fy mynydd cysegredig!”
7 Gadewch i mi ddweud beth mae’r ARGLWYDD wedi ei ddatgan:
Dwedodd wrtho i,
“Ti ydy fy mab i;
heddiw des i yn Dad i ti.
cei etifeddu’r cenhedloedd.
Bydd dy ystad di yn ymestyn i ben draw’r byd.
9 Byddi’n eu malu â phastwn haearn
yn ddarnau mân, fel darn o grochenwaith.”
10 Felly, chi frenhinoedd, byddwch ddoeth;
dysgwch eich gwers, chi arweinwyr daearol!
11 Gwasanaethwch yr ARGLWYDD gyda pharch;
byddwch yn falch ei fod wedi’ch dychryn chi!
12 Plygwch, a thalu teyrnged i’r mab;
neu bydd yn digio a cewch eich difa
pan fydd yn dangos mor ddig ydy e.
Mae pawb sy’n troi ato am loches
wedi eu bendithio’n fawr!
Mae’r Salm hwn am frenhinoedd gwahanol iawn i’w gilydd – brenhinoedd
drygionus y byd a’r brenin y mae Duw wedi ei osod ar yr orsedd.
Cwestiwn 1
1. Beth yw nodweddion y bobl, eu brenhinoedd a’u arweinwyr
(adnodau 1-3)?
Cwestiwn 2
2. Pam mae’r Arglwydd yn chwerthin (adnodau 4-5)?
Cwestiwn 3
Pwy yw’r brenin y mae Duw wedi ei eneinio (adnod 6)?
Mae’r byd yn llawn ofnau a gall ymddangos allan o reolaeth. Ond mae’r
Arglwydd yn dweud ‘Dw i wedi gosod fy mrenin’. Weithiau mae’n anodd credu
hynny. Roedd e’n anodd hefyd i’r bobl a ganodd y salm hwn am y tro cyntaf.
Ro’n nhw wedi cael addewid o ‘ddyn-frenin wedi ei fendithio’ a fyddai’n dod
drwy linach teulu Dafydd. Mae Dafydd yn ofni am ei fywyd yn llawer o’r
salmau, heb sôn am deyrnasu! Hefyd, roedd cyfnodau pan oedd brenhinoedd
teulu Dafydd yn ymddwyn yn wahanol iawn i Iesu, roedd yn anodd credu bod
‘y dyn-frenin wedi ei fendithio’ yn mynd i ddod o gwbl. Yn union fel y cantorion
gwreiddiol yna, rydyn ni hefyd yn aros i’r brenin ddod eto i goncro marwolaeth,
tristwch a dioddefaint. Mae’r salm yn help i ni gadw gobaith ac i gredu yn Iesu,
hyd yn oed pan fod y tywyllwch, i bob golwg, yn ennill. Mae’r Arglwydd wedi
gosod ei frenin yn Seion, felly dyna ein gobaith.
Cwestiwn 4
Pan fyddi di’n mynd drwy amserau trist ac anodd, sut elli di gofio fod
Iesu wedi dod ac wedi gorchfygu drygioni?
Gweddïa: Diolch i’r Arglwydd am osod ei frenin yn Seion, er mwyn rhoi gobaith i ni wrth wynebu amserau anodd.
I fynd yn ddyfnach:
1) Ble mae’r ARGLWYDD wedi gosod ei frenin? Yn Seion – hynny yw
mynydd sanctaidd Duw. Mae Seion yn ymddangos yn aml yn y
Salmau. Fe farchogodd y brenin i mewn i Jeriwsalem (Seion) ar Sul y
Blodau, gyda’r dorf yn cymeradwyo a gweiddi allan y geiriau o Salm
118. Ar ddiwedd y salm hwnnw, mae’r un sy’n cael ei fendithio, sy’n
dod yn enw’r ARGLWYDD, yn cael ei arwain at yr allor. Roedd taith
Iesu yn mynd ag ef i fyny mynydd sanctaidd Duw at groes bren, lle bu
farw drosom ni.
2) Beth yw’r addewid sy’n cael ei roi i’r brenin yn Salm 2, adnod 8?
Darllen Actau 1 & 2 i ddeall sut mae Iesu wedi cyflawni’r addewid
hwn, ac wedi roi i’w eglwys beth sydd ei angen er mwyn tystiolaethu
i’r cenhedloedd. Byddai’n dda i weddio dros rhywun rwyt ti’n ei
nabod sy’n dweud wrth bobl am Iesu mewn gwlad arall, ac hefyd i
weddio dros rhywun y gallet ti dy hun dystiolaethu iddynt am y
newyddion da.