
1 O ARGLWYDD, pam wyt ti’n cadw draw?
Pam wyt ti’n aros o’r golwg pan mae pethau’n anodd arna i?
2 Mae’r rhai drwg mor hy! Maen nhw’n hela’r tlawd —
gwna iddyn nhw gael eu dal gan eu dyfais eu hunain!
3 Mae’r un drwg yn brolio ei fod yn cael ei ffordd ei hun;
a’r lleidr yn melltithio a dirmygu’r ARGLWYDD.
4 Mae’r un drwg mor falch, yn swancio
ac yn dweud wrth ddirmygu’r ARGLWYDD:
“Dydy e ddim yn galw neb i gyfri;
Dydy Duw ddim yn bodoli!”
5 Ydy, mae’n meddwl y bydd e’n llwyddo bob amser.
Dydy e’n gwybod dim am dy safonau di;
ac mae’n wfftio pawb sy’n ei wrthwynebu.
6 Mae’n meddwl wrtho’i hun, “Dw i’n hollol saff.
Mae popeth yn iawn! Fydda i byth mewn trafferthion.”
7 Mae e mor gegog! — yn llawn melltith a thwyll a gormes;
a’i dafod yn gwneud dim ond drwg ac achosi trafferthion!
8 Mae’n cuddio wrth y pentrefi, yn barod i ymosod;
mae’n neidio o’i guddfan a lladd y dieuog —
unrhyw un sy’n ddigon anffodus.
9 Mae’n disgwyl yn ei guddfan fel llew yn ei ffau,
yn barod i ddal y truan a’i gam-drin;
ac mae’n ei ddal yn ei rwyd.
10 Mae’n plygu i lawr, yn swatio,
ac mae rhywun anlwcus yn syrthio i’w grafangau.
11 Mae’n dweud wrtho’i hun, “Dydy Duw ddim yn poeni!
Dydy e’n cymryd dim sylw.
Dydy e byth yn edrych!”
Cod dy law i’w daro, O Dduw!
Paid anghofio’r rhai sy’n cael eu gorthrymu.
13 Pam ddylai dyn drwg gael dilorni Duw
a meddwl dy fod ti’n galw neb i gyfri?
ti’n sylwi ar y poen a’r dioddefaint.
A byddi’n talu’n ôl!
Mae’r un oedd yn anlwcus yn dy drystio di,
am mai ti sy’n helpu plant amddifad.
Galw fe i gyfrif am y drygioni
roedd e’n meddwl na fyddet ti’n ei weld.
16 Mae’r ARGLWYDD yn frenin am byth
a bydd y cenhedloedd yn diflannu o’r tir!
17 Ti’n gwrando ar lais y rhai sy’n cael eu gorthrymu
yn crefu arnat, O ARGLWYDD.
Byddan nhw’n teimlo’n saff
am dy fod ti’n gwrando arnyn nhw.
18 Unwaith eto byddi’n rhoi cyfiawnder
i’r amddifad a’r rhai sy’n cael eu sathru;
byddi’n stopio dynion meidrol rhag eu gormesu.
Ysgrifennwyd y salm hon yn ystod cyfnod pan oedd yn edrych fel drwg yn ennill. Mae’r salmydd yn gweiddi ar Dduw mewn gofid.
Cwestiwn 1
Ydych chi erioed wedi teimlo bod Duw yn bell i ffwrdd? Sut wnaethoch chi ymdopi â’r cyfnod hwnnw?
Cwestiwn 2
Sut mae’n eich cysuro chi i wybod bod Duw yn gweld y dioddefaint a’r tristwch ac yn clywed eu crio am help? V14
Mae’r Salmydd yn dechrau trwy ofyn i Dduw pam ei fod yn ymddangos yn bell i ffwrdd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ydych chi erioed wedi gweddïo gweddi debyg? Mae’n gysur gwybod ei bod hi’n iawn dod â’n hamheuaeth a’n brwydrau at Dduw. Efallai eich bod chi’n mynd trwy gyfnod o ddioddefaint nawr? Neu efallai bod gennych ffrind sy’n cael trafferth gyda rhywbeth. Oedwch yr astudiaeth hon a gweddïwch ar Dduw. Dywedwch wrtho unrhyw beth a phopeth sydd ar eich calon.
Cwestiwn 3:
Ar ôl dweud wrth Dduw ei amheuon, mae’n ei ganmol ef v16-18. Beth mae’r tri pennill hyn yn ei ddweud wrthym am gymeriad Duw?
Cwestiwn 4
Mae Duw yn frenin ar bopeth ac mae’n frenin am byth bythoedd. A yw hyn yn rhoi gobaith a chysur i chi?
Gweddïwch: Diolch, Arglwydd, eich bod yn frenin am byth bythoedd. Diolch dy fod ti’n ein clywed ni ac y gallwn ni ddod atat ti a gweiddi arnat ti yn ein tristwch.