
Salm gan Dafydd pan oedd yn ffoi oddi wrth ei fab Absalom.
1 O ARGLWYDD, mae gen i gymaint o elynion!
Mae cymaint o bobl yn ymosod arna i.
2 Mae cymaint ohonyn nhw’n dweud,
“Fydd Duw ddim yn dod i’w achub e!”
Saib
3 Ond ARGLWYDD, rwyt ti fel tarian o’m cwmpas.
Ti ydy’r Un dw i’n brolio amdano!
Ti ydy’r Un sy’n rhoi hyder i mi.
4 Dim ond i mi weiddi’n uchel ar yr ARGLWYDD,
bydd e’n fy ateb i o’i fynydd cysegredig.
Saib
5 Dw i wedi gallu gorwedd i lawr, cysgu a deffro,
am fod yr ARGLWYDD yn gofalu amdana i.
6 Does gen i ddim ofn y miloedd o filwyr
sy’n ymosod arna i o bob cyfeiriad.
Achub fi, O fy Nuw.
Rho glatsien iawn i’m gelynion i gyd.
Torra ddannedd y rhai drwg.
Rwyt ti’n bendithio dy bobl!
Saib
Fe ysgrifennodd Dafydd y salm pan oedd yn ffoi oddiwrth ei fab, Absalom, a
oedd yn trio ei ladd er mwyn dod yn frenin.
Cwestiwn 1
Sut fyddet ti’n disgrifio ‘naws’ y salm?
Cwestiwn 2
Wyt ti erioed wedi meddwl ‘mae gen i gymaint o elynion’? Wyt ti erioed
wedi meddwl fod gen ti lawer o elynion?
Nid llyfr diflas yw’r Beibl. Edrych ar bennawd Salm 3. Roedd rhaid i Dafydd ffoi
oddiwrth ei fab ei hun, Absalom, neu byddai’n cael ei ladd! Gelli di ddarllen
hanes Absalom yn 2 Samuel 15.
Mae’n rhaid i ni gofio ein bod yn darllen caneuon a gweddïau brenin mwy na
Dafydd yma. Dyma’r gweddïau a’r caneuon a weddïodd ac a ganodd Iesu ei
hun. Cafodd Iesu ei fradychu gan ffrind agos, wedyn ei arestio a’i ddedfrydu i’w
groeshoelio. Mae’r salmau yn ein helpu ni i ddeall sut oedd Iesu’n gallu
wynebu’r fath amgylchiadau anodd. Mae Iesu wir yn ein deall ni ac yn
cydymdeimlo gyda ni. Dylai hynny dy annog i weddïo am help oddi wrtho fe. Ac
fel Iesu, gelli di wir ymddiried yn dy Dad nefol am bopeth. Mae Iesu wedi profi
hynny yn y ffordd mwyaf eithafol. Gallai orwedd i lawr i farw gan ymddiried y
byddai’n deffro eto, am fod yr ARGLWYDD yn ei gynnal.
Cwestiwn 3
Beth allwn ni ddysgu o’r salm sy’n gallu ein helpu ni pan ydyn ni’n rhy
ofnus i gysgu neu ddim yn gallu cysgu?
Cwestiwn 4
Ffeindia un wers ymarferol y gelli di ddysgu o Salm 3?
Gweddïa: Dad, diolch i ti mai ti yw ein nerth a’n tarian, yn ein cadw’n saff, pan
ein bod yn teimlo bod pawb yn ein herbyn.