
Salm alar gan Dafydd. Canodd hi i’r ARGLWYDD am Cwsh, un o lwyth Benjamin.
1 O ARGLWYDD, fy Nuw, dw i’n troi atat ti am loches.
Helpa fi i ddianc oddi wrth y rhai sy’n fy erlid. Achub fi,
2 rhag iddyn nhw, fel llew, fy rhwygo’n ddarnau,
ie, yn ddarnau mân, nes bod neb yn gallu fy achub.
3 O ARGLWYDD, fy Nuw, os ydy e’n wir —
os ydw i’n euog o wneud drwg,
4 os ydw i wedi bradychu fy ffrind,
(ie fi, yr un a achubodd fy ngelyn am ddim gwobr!)
5 yna gad i’r gelyn ddod ar fy ôl i, a’m dal i.
Gad iddo fy sathru dan draed,
a’m gadael i orwedd mewn cywilydd ar lawr.
Saib
6 Côd, ARGLWYDD! Dangos dy fod ti’n ddig,
a sefyll yn erbyn ymosodiadau ffyrnig y gelyn!
Symud! Tyrd i ymladd ar fy rhan i,
a dangos sut rwyt ti’n mynd i’w barnu nhw!
7 Mae’r bobloedd wedi ymgasglu o dy gwmpas;
eistedd di ar dy orsedd uwch eu pennau!
8 Mae’r ARGLWYDD yn barnu’r cenhedloedd!
Achub fy ngham, O ARGLWYDD,
achos dw i wedi gwneud beth sy’n iawn. Dw i ddim ar fai.
9 O Dduw cyfiawn, yr un sy’n treiddio’r meddwl a’r gydwybod,
stopia’r holl ddrygioni mae pobl yn ei wneud.
Ond gwna’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn yn gadarn.
10 Mae’r Duw mawr fel tarian i mi;
mae’n achub yr un sy’n byw’n iawn.
ond mae’n dangos bob dydd ei fod wedi digio
12 wrth y rhai sydd ddim yn troi cefn ar bechod.
Mae’n rhoi min ar ei gleddyf,
yn plygu ei fwa ac yn anelu.
ac yn defnyddio saethau tanllyd
i ymladd yn eu herbyn.
14 Edrychwch! Mae’r dyn drwg wrthi eto!
Mae’n feichiog o ddrygioni,
ac yn geni dim byd ond twyll!
15 Ond ar ôl cloddio twll dwfn i eraill,
bydd yn syrthio i’w drap ei hun!
16 Bydd y drwg mae’n ei wneud yn ei daro’n ôl;
a’i drais yn ei fwrw ar ei dalcen.
17 A bydda i’n moli’r ARGLWYDD am fod mor gyfiawn,
ac yn canu emyn o fawl i enw’r ARGLWYDD Goruchaf.
Ysgrifennodd Dafydd y salm hwn mewn ymateb i eiriau drygionus rhywrai yn ei
erbyn. Roedd rhywun yn trio ei bardduo fe gyda’u geiriau ac yn trio ei danseilio
fel brenin.
Cwestiwn 1
Pa emosiynau sy’n cael eu dangos yn y salm? Tria ddychmygu sut roedd
Dafydd yn teimlo. Sut fyddet ti’n teimlo yn ei le fe?
Cwestiwn 2
Meddylia am sefyllfa pan welaist ti anhegwch a drygioni yn y byd, ac
roeddet am gael cyfiawnder. Beth mae’r salm yn dysgu am y ffordd i
ymateb pan fydd hyn yn digwydd?
Efallai bydd y salm hwn yn anodd i ni ddarllen am ei fod yn trafod ddicter a
barn Duw. Mae Dafydd yn galw am gyfiawnder. Wyt ti erioed wedi gweld
rhywbeth mor ddrygionus dy fod wedi galw allan am gyfiawnder? Pan welwn ni
dristwch a dioddefaint, rydym yn ysu am gyfiawnder a thegwch: weithiau pan
welwn ni rhywun yn cael ei gamdrin, neu pan welwn ni anhegwch yn y byd,
neu efallai i ti weld effaith erchyll drygioni ar y newyddion, neu hyd yn oed cael
dy effeithio yn bersonol gan rhywbeth drygionus.
Mae Duw yn gweld drygioni a throseddu yn y byd ac mae e’n grac. Mae Duw yn
Dduw cyfiawnder a daioni. Un diwrnod, bydd Duw yn dod â phob drygioni a
phechod i ben. Byddwn i gyd yn cael ein barnu yn ôl ein pechod a bydd
cyfiawnder yn gorchfygu. Gall hyn beri tipyn o ofn i ni achos rydyn ni i gyd wedi
gwneud pethau sy’n anghywir. Ond os wyt ti’n Gristion, os wyt ti’n caru Iesu ac
yn credu ynddo, yna gelli di fod yn siŵr bod Iesu wedi cymryd y gosb yr ydyn
ni’n ei haeddu, yn ein lle.
Pan bu farw Iesu ar y groes, bu farw dros yr holl rai sy’n ymddiried ynddo. Ef
yw ein cyfiawnder ni. Felly, fel Dafydd, gallwn ddiolch i’r Arglwydd ‘am fod mor
gyfiawn’ (adnod 17).
Cwestiwn 3
Mae Dafydd mewn sefyllfa ofnadwy, ac mae’n cofio Duw. Pan wyt ti’n
wynebu pethau anodd, at bwy wyt ti’n troi?