Go brin y byddech yn ymwybodol wrth edrych arni heddiw’r brwydrau y mae Megan wedi gorfod eu hymladd. Mae yna gryfder ym mer esgyrn y ferch ifanc o Drawsfynydd ac yma mae’n rhannu ei stori…
Mae’r adeg yna o’r flwyddyn wedi cyrraedd eto – mae llwyth o bobl mewn dillad gwyn ar y teledu! Rhai ohonynt yn chwarae tennis yn Wimbledon, a rhai yn chwarae criced mewn pob math o gystadlaethau. Un o’r cystadlaethau criced sy’n digwydd eto’r haf yma yw Cyfres y Lludw (yr Ashes) lle bydd Lloegr ac Awstralia yn chwarae i ennill cwpan sy’n dal lludw wicedi criced wedi’u llosgi. Ond pam fydden nhw eisiau ennill cwpan yn llawn lludw?!